Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/336

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cwestiynau a allant godi i beri anghydfod rhwng teyrnasoedd. Yn ol erthygl 23, mae y Galluoedd yn ymrwymo i ddewis pedwar o wyr cymwys a hyddysg mewn materion o Gyfraith Ryngwladwriaethol y rhai sydd i ffurfio y llys sefydlog hwn. Bellach, os digwydd i anghydfod godi rhwng unrhyw ddwy o'r teyrnasoedd ymrwymedig, yn lle dechreu hel eu byddinoedd at eu gilydd, gall pob un ddewis dau o aelodau y llys hwn, ac os metha y pedwar gytuno, dewisant ddyddiwr i benderfynnu y pwnc mewn dadl.

Da gennym hysbysu mai y diweddar Syr Julian Pauncefote, cynrychiolydd Prydain yn y Gynhadledd a alwodd sylw ac a ddadleuodd dros ddymunoldeb sefydlu y llys hwn, ac y mae yn amlwg fod y ddiweddar Frenhines Victoria yn gwerthfawrogi ei lafur yn yr Hague, oblegid anrhydeddwyd ef trwy ei wneud yn Farwnig. Mae holl fanylion cyfansoddiad y llys hwn, y rheolau y penderfynwyd arnynt ynglŷn âg ef, a'r areithiau grymus a draddodwyd ar yr achlysur yn cael eu gosod i lawr yn llyfr Dr. Holls. Carasem fanylu arnynt, ond nid dyma'r lle priodol i hynny. Ynfydrwydd fydd tybied y bydd pob Gallu mewn anghydfod âg un arall ar unwaith yn troi i wneud defnydd o'r llys newydd hwn; ond digon yw dweud fod y Gynhadledd wedi gosod i fyny beirianwaith o Gyflafareddiad, ond ei rhoi mewn gweithrediad, a rydd derfyn ar ryfeloedd rhwng y Galluoedd a gynrychiolid ynddo. Gwaith mawr ein Seneddwyr, dysgawdwyr a gwyr dylanwadol y byd o hyn allan fydd goleuo y bobl fod yn bosibl bellach apelio at foddion mwy rhesymol, mwy dynol, mwy cydweddol âg egwyddorion Cristionogaeth na'r dull