Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/337

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

barbaraidd presennol i derfynnu cwerylon; fod llys wedi ei sefydlu i'r pwrpas hwnnw. . . . Unwaith y caiff y llys hwn un achos pwysig i'w benderfynnu, bydd yn haws cyfeirio ato mewn achosion ereill.[1]

Ar ddiwedd y flwyddyn 1901, cyfarfu Cynhadledd Ryngwladwriaethol America yn Mexico, a rhoddodd ei chymeradwyaeth unfrydol i Gytundeb Cynhadledd yr Hague. "Bydd hyn (ebe Adroddiad y Gymdeithas Heddwch am 1902), yn cwblhau gwaith Cynhadledd yr Hague, trwy estyn y Cytundeb Heddwch hyd at yr holl fyd gwareiddiedig ..... Pan fydd yr Unol Daleithiau eto wedi llaw-arwyddo Cytundeb yr Hague, bydd sefydliad cyffredinol. Uchel Lys Cenhedloedd o blaid yr hyn y gweithiodd y Gymdeithas hon am tua chan mlynedd, wedi ei gyflawni.”

A gallwn ychwanegu, pan ddaw y cenhedloedd gwareiddiedig i apelio at y llys hwn yn lle at y cleddyf, ni fydd neb yn teilyngu mwy o barch am y rhan â gymerodd i ddwyn y dyddiau dedwydd hyn i ben na'n cydwladwr, y diweddar Henry Richard. A goddefer i ni, wrth derfynnu, bwysleisio y sylw, fod yr athrawiaeth a bregethodd drwy ei oes, wedi dod o'r diwedd yn gredo proffesedig cenhedloedd Gwareiddiedig y byd.

  1. Medd y Times am Awst 27ain ddiweddaf,—"Mae Cyngor yr Hague ar gael ei alw ynghyd er mwyn penderfynnu ei achos cyntaf. Yr oedd y cyhoedd wedi gwneud ei meddyliau i fyny nad allasai y Llys hwnnw fod o un gwir fudd, a bydd y newydd hwn yn peri syndod." Achos bychan ydyw rhwng yr Unol Daleithiau a Mexico. Mae y blaenaf wedi penodi Syr Edward Fry (Sais) a M. Martens (Rwsiad), a'r olaf wedi penodi y Seneddwr Guernaschelli (Italiad) a M. de Savolnin Lohman (Isellmynwr). Dyma ddechreu, pa fodd bynnag.