Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/340

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddyliau gwestiynau gyda golwg ar gyfreithlondeb rhyfeloedd arbennig. Ond dadleua Mr. Maurice nad oes dim a wnelo'r milwr â'r cwestiwn o gyfiawnder unrhyw rhyfel, oblegid nis gall dim a wna efe newid barn y Llywodraeth; ei waith ef ydyw ymladd, ac nid arno ef y mae y cyfrifoldeb. Mewn erthyglau nerthol a chyrhaeddgar iawn, y mae Mr. Richard yn gwasgu adref y cwestiwn, Ai nid oes rhyw derfyn i fod ar ufudd-dod i'r Llywodraeth? Onid ydyw pob un drosto ei hun i roddi cyfrif i Dduw? Pe gorchmynnid i'r milwr ladd ei dad, neu pe gwaherddid iddo addoli Duw, a ydyw yn ddyledswydd aruo ufuddhau? Mae bod y swydd filwrol yn arwain i'r fath ganlyniadau, ac yn gorfodi dynion o gymeriad mor ddilychwin a Mr. Maurice i'w hamddiffyn yn gondemniad ar y gyfundrefn filwrol bresennol ar unwaith. Difynna Mr. Richard hefyd eiriau ereill o eiddo Syr Charles Napier, yr hwn yn ei Ddydd-lyfr a ddywed, mai "gorchfygu teimladau crefyddol ydyw'r ffordd yn gyffredin i wneud milwr da."

Mae yr un pwnc, mewn gwedd wahanol, yn cael ei drin yn ei Adolygiad ar Fywyd Cadben Hedley Vicars yn yr Herald of Peace am 1856, t.d. 66. Yr oedd gwaith dynion da fel Hedley Vicars yn aros yn y fyddin ac yn cyflawni y fath weithredoedd ysgeler ac anfad ag a wnaeth efe, yn anesboniadwy i Mr. Richard; ond ar yr un egwyddor ag y deallir gwaith y diweddar John Newton ya cario y gaethfasnach ymlaen, sef diffyg ystyriaeth.[1]

2. Rhyfel ac Egwyddorion Cristionogaeth.–Y syniad cyffredin yw y bydd rhyfel yn darfod o angenrheidrwydd, pan fydd egwyddorion Cristionogaeth wedi ennill tir mwy cyffredinol yn ein mysg. Ond y mae Mr. Richard, mewn erthygl yn yr Herald of Peace am 1863, t.d. 222, yn dadleu fod hynny yn dibynnu ar y cwestiwn pa fath Gristionogaeth a ddysgir. Pe troid y byd at Gristionogaeth yfory, tra y pregethid y Gristionogaeth a bregethir mor fynych yn awr am gyfreithlondeb rhyfel, ni roddai hynny derfyn arno. Yr oedd gan Fwrdd Cenhadol yn America Genhadaethau llwyddianus yn Cherokee a Choctaw, ond nid oedd eu Cristionogaeth yn rhwystro i'r Cenhadon amddiffyn Caethwasiaeth, er hynny. Ac onid oes llawer o ddiwinyddion enwog yn awr yu dadleu nad oedd rhyfel rhwng Cristionogion yn bechod?[2] Tystiai Esgob New Zealand fod llawer o'r brodorion Cristionogol yn anewyllysgar i gymerid y Cymun, gan fod y Llyfr Gweddi Cyffredin yn cyfreithloni rhyfel. Yr oedd yu rhaid dysgu y dynion hyn oedd wedi derbyn Cristionogaeth, nad oedd dim sail i'w tynerwch cydwybod!

  1. Gwel erthygl gan yr Awdwr yn y Traethodydd am 1898, t. d. 107, yn cyfeirio at y mater hwn.
  2. Onid dwy wlad yn proffesu Cristionogaeth sydd yn ymladd â'u gilydd yn awr yn Affrica, pan ydym yn ysgrifennu.