Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/341

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un o'r ymgeisiadau mwyaf cywrain i gysoni rhyfel â Christionogaeth ydyw eiddo Canon Mozley, yn un o'i bregethau o flaen Athrofa Rhydychain. Cofus gennym fod gweinidog Cymreig enwog unwaith wedi galw ein sylw at y bregeth hon fel un ag oedd yn myned o dan wraidd egwyddorion y Crynwyr. Cafodd argraff wahanol iawn, pa fodd bynnag, ar ein meddwl ni. Mae y Canon yn sylfaenu ei ymresymiad ar y gosodiadau hynod ac anesboniadwy a ganlyn,—"Mae Cristionogaeth," meddai, "yn mabwysiadu natur. Fel rhan o natur y mae yn mabwysiadu cenhedloedd fel yn cyfansoddi, ar yr un pryd, raniad a chyfansoddiad y bywyd dynol. Wrth fabwysiadu natur, y mae Cristionogaeth yn mabwysiadu rhyfel, gan fod rhyfel yn un o hawliau mewnol natur. Y mae rhyfel yn un o'r hawliau hyn, oblegid yn rhaniad dynolryw i genhedloedd gwahanol y mae rhyfel y angenrheidiol!"

Os oes rhyw un yu tybied fod rhyw wirionedd o dan y gosodiadau cyfriniol cywrain a thywyll hyn, cynghorem ef i ddarllen tair erthygl arnynt gau Mr. Richard yn yr Herald of Peace am 1877, t.d. 268, 282, a 328. Rhaid fod achos yn anobeithiol pan y gorfodir gŵr mor ddysgedig a'r Canon Mozley i weud y fath haeriadau ag a wna yn y bregeth dan sylw. Nid rhyfedd i Mr. Richard ddweud wrth derfynnu ei Adolygiad galluog, na ddarllennodd erioed bregeth gyda mwy o dristwch, nac un sydd yu fwy tebyg i wauhau ffydd y bobl yng Nghrefydd Crist, na'r bregeth hon.

3. Cristionogaeth yn ymarferol yn awr.—Mynych y dywedir nas gellir cario allan egwyddorion heddychol y Testament Newydd yn awr; ond pan ddaw y byd yn nes i'w le y gellir gwneud hynny. Nid yw hyn ond defnyddio y feddyginiaeth, medd Mr. Richard, wedi i'r claf wela. Yn y byd drwg presennol y mae y gwersi, "Na wrthwynebwch ddrwg" i'w gweithio allan. Os aroswn i athrawiaethau Cristionogol newid y byd, gallwn gael ein siomi. Mae digon o engreifftiau o uniongrededd athrawiaethol yn cydfyw a'r gweithredoedd mwyaf anfad ar ran Cristionogion. Yr oedd rhai o'r dynion duwiolaf a mwyaf uniongred yu amddiffyn y gaethfasnach. Rhaid troi tanbeidrwydd goleuni llawn yr Efengyl ar y drwg penodol sydd eisieu ei symud cyn y gwelir ef, ac y gwneir hynny. Herald of Peace, 1850, t.d. 6.

4. Rhyfel a goruwchlywodraeth Duw.—Nid oes dim yn effeithio mwy i beri i rai pobl grefyddol fod yn hwyrfrydig i gondemnio rhyfel na'r ffaith ei fod weithiau yn offeryn yn llaw Duw i ddwyn oddiamgylch amcanion neilltuol. Nid oedd Mr. Richard yn gwadu y ffaith, ond gofynnai, Beth, er hynny? a oeddem i fabwysiadu yr egwyddor "Gwnawn ddrwg fel y del daioni?" Meddylier am ddynion yn ymuno i wrthwynebu pob math o ormes ac erledigaeth