Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/342

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

grefyddol, a rhyw un yu dadleu yn eu herbyn, gan fod "gwaed y merthyron yn hâd yr eglwys!" Beth a ddywedid pe symudid gormesdeyrn—un a fyddai wedi gwneud drygau ofnadwy—oddiar y ffordd trwy lofruddiaeth, a phed elai rhywun at y llofrudd gan ddweud ei fod yn ddiau wedi cyflawni gweithred ysgeler, ond ar yr un pryd fod yn rhaid cofio y bu yn offeryn yn llaw Duw i gario allan ei amcanion Ef! Mae y bobl sydd yn siarad ar ryfel fel hyn yn ymresymu ar sail dwyllodrus, sef fod gennym hawl i reoleiddio ein hymddygiadau yn ol y canlyniadau a ddichon eu dilyn, yn lle yn ol eu nodwedd moesol. Herald of Peace, 1853, t.d. 302.

5. Rhyfel a lledaeniad yr Efengyl.–Syniad llawer o ddynion da ydyw fod rhyfel wedi "agor drysau" i'r Efengyl. Dadleua Mr. Richard, hyd yn oed, pe felly, na fyddai hynny yn un ddadl dros i ni ei gyfreithloni; fod Duw yn gallu goruwchlywodraethu y drygau pennaf er daioni. Ond a ydyw yn ffaith fod rhyfel wedi bod yn fanteisiol i ledaeniad yr Efengyl? Geiriau un ysgrifennydd enwog ydyw,—“ Fod pob rhyfel yn ystod y 200 mlynedd diweddaf wedi arwain i drefniadau a arweiniasant i ledaeniad Cristionogaeth." Ai gwir hyn? Nage, medd Mr. Richard, yn ol tystiolaeth hanesiaeth. A fu rhyfel yn help i achos Protestaniaeth y Diwygiad? Yn 1546 cymerodd y Protestaniaid yn Germani arfau yn erbyn Charles y 5ed. Ar ol pum mlynedd o ymladd, gorchfygwyd yr Ymherawdwr. Yn lle bod o fantais, bu y rhyfel yn niwed dirfawr i Brotestaniaeth. Ataliodd ei lledaeniad yn allanol, a darostyngodd ei nodweddiad mewnol. Cymerer rhyfel yr Huguenotiaid yn Ffrainc Yn ol tystiolaeth Proffeswr de Felice, yr oedd ganddynt 2,150 o Eglwysi yn 1501, ond yn 1606 eu nifer oedd 760. A mwy, yr oedd crefydd a moesoldeb wedi eu darostwng i'r cyflwr iselaf ar ol y rhyfel. Dyna hefyd dystiolaeth Syr James Stephen yn ei Lectures on the History of France. Cymerer hanes y rhyfel a barhaodd am 30 mlynedd yn Germani, rhyfel a gychwynwyd o bwrpas i ledaenu Protestaniaeth. Collodd Germani, medd Menzel, hanner ei phoblogaeth, ac yn ol ereill ddwy ran o dair. Dinistriwyd trefydd, difethwyd masnach, a chollodd y bobl eu rhyddid. A fu Protestaniaeth ar ei hennill? Dwg Mr. Richard dystiolaethau Schiller, Mosheim, Pfister, a Macaulay, i ddangos y modd y bu gwir Brotestaniaeth ar ei cholled mewn canlyniad. Yr un modd y bu gyda rhyfeloedd y wlad hon, hanes y rhai y mae Mr. Richard yn ei roddi. Cymerer y rhyfel yn erbyn Ffrainc yn nechreu y ganrif hon. Mae pobl wedi eu dysgu i gymeryd yu ganiataol, heb ymchwiliad, fod y rhyfel mawr hwnnw wedi bod yu fanteisiol i ryddid a chrefydd. Ond a fu? Gwir y cododd llawer o sefydliadau daionus yn nechreu y ganrif, ond nid mewn canlyniad i'r rhyfel, ond oherwydd yr Adfywiad Crefyddol a dorrodd allan. Yr