Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/343

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn syniad cyffredin, ar y pryd, y buasai y rhyfel yn troi allan yn fanteisiol i Grefydd; ond dengys Mr. Richard, trwy daflu golwg ar sefyllfa y Cyfandir, nad felly y bu. Ac y mae yn rhoddi trem ar lafur Cenhadon ymysg Paganiaid, ac yn dangos y modd y mae rhyfeloedd wedi llesteirio ei lwyddiant. Tystiolaeth Mr. Hume, Cenhadwr Americanaidd ydyw, mai tuedd brodorion India ydyw edrych ar y Ceuhadon fel yn perthyn i'r milwyr sydd wedi eu darostwng, a bod hynny yn caledu eu calonnau yn erbyn eu dysgeidiaeth. Tystiolaeth Mr. Long, Cenhadwr yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig ymysg yr Hindwaid ydyw, mai "y rhwystr pennaf i ledaeniad Cristionogaeth ydyw ysbryd rhyfelgar y rhai sydd yu ei phroffesu."

Ond hwyrach y dywedir mai nid fod rhyfel yn helpu derbyniad Cristionogaeth a honnir, ond ei fod yn "agor drysau" iddi i fyned i mewn. Sut y gallesid myned i India, oni buasai fod y cleddyf wedi agor y ffordd yn gyntaf? Gofidia Mr. Richard oherwydd dadl fel hon.

Onid oedd gan Gristionogaeth yr un gallu i weithio ei ffordd i fysg y Paganiaid, ag oedd gan ei charedigion yn yr oesoedd boreuol? Beth oedd yn rhwystr iddynt wneud fel St. Francis o Assissi, a Francis Xavier? Onid un o'r dadleuon pennaf o blaid dwyfoldeb Cristionogaeth ydyw ei lledaeniad gwyrthiol yn y canrifoedd cyntaf, heb rym na chynorthwy y cleddyf?

Er mwyn dangos fel y mae y syniad cyfeiliornus wedi meddianuu meddyliau dynion da, yn enwedig yn amser rhyfel, difynna Mr. Richard ran o bregeth Dr. Candlish ar y geiriau, "O! gleddyf yr Arglwydd, pa hyd ni lonyddi?" yn yr hon y mae yn torri allan gyda hyamdledd rhyfedd i ofyn, "Pa fodd y gall lonyddu tra y mae gormes, trais, coel-grefydd, caethwasiaeth, Babilon Fawr, mam puteiniaid, &c., ar eu traed." Gofynna Mr. Richard, gyda syndod, a hefyd gyda gresyndod. A oeddem i dybied mewu difrif mai y cleddyf oedd i ddinistrio "coel-grefydd," "gormes", "caethwasiaeth," "Mahometaniaeth a Phabyddiaeth?" A oedd y Dr. dysgedig yu anghofio y geiriaU, "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr." Herald of Peace, 1854, t.d. 104.

Cofier nad yw y difyniad a roddwyd o bregeth Dr. Candlish, ond esiampl o un o luaws o bregethau a draddodwyd tua'r flwyddyn 1851-5 o dan ddylanwad yr ysbryd rhyfelgar oedd wedi meddiannu y wlad yn amser Rhyfel y Crimea.

6. Rhyfel a Rhyddid.—Nid oes dim ag y mae pleidwyr rhyfel yn ymddangos fel yn cael y llaw uchaf ar bleidwyr Heddwch, na chyda'r cri a godir mor fynych mewn perthynas i frwydrau ein "gwrol ryfelwyr" yn colli eu gwaed dros ryddid. Nid oedd neb mor barod, ac a ymladdodd yn fwy dewr dros ryddid na Mr. Richard, ond nid â'r cleddyf. Honnai mai nid y cleddyf ydyw'r offeryn goreu i ennill