Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/344

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhyddid. Yn wir, yr oedd y syniad am ryddid yn beth cwbl groes i'r syniad am nerth anifeilaidd. Edrycher ar hanes y Chwildroad yn Ffrainc. Ni fu mwy o gariad at wir ryddid ym mynwes neb na'r Ffrancod yn y Chwildroad cyntaf; ond pan wnaed ymosodiad arnynt gan bennau Coronnog Ewrob, ac y dibynasant ar y cleddyf, gwenwynwyd cymdeithas, cyfnewidiwyd eu natur, a daethant yn ellyllon mewn creulondeb. Dyna yr hyn y mae hanesiaeth yn ei ddysgu bob amser. Pa un bynnag ai buddugoliaethu ai colli a wneir, mae rhyddid yn dioddef. Dywedir yn gyffredin nad yw y genedl honno a ymladda am ei rhyddid yn cael ei gwasgu i'r llawr. Ond y mae hanes Groeg, Carthage, Poland, Itali, Hungari a llawer ereill yn profi i'r gwrthwyneb. Edrychwch ar Ewrob yn awr (1851). Mae Rhyddid, oherwydd apelio at y cleddyf, wedi cael ei ddarostwng o dan garnau gormesiaeth. Sylwer mai y foment yr apelia rhyddid at y cledd, ac yr arferir trais ac y tywelltir gwaed dynol, y mae yn colli y dydd.

Ond tybier fod pobl wrth ymladd yn gorchfygu eu gormeswyr, a ydynt trwy hynny wedi dogelu eu hiawnderau? I'r gwrthwyneb, ym mhob amgylchiad bron y mae y milwyr a ennillod y fuddugoliaeth yn dod eu hunain yn orneswyr. Yr ydys yn arferol o gyfeirio gydag ymffrost at Cromwell fel engraifft o ryfel yn dymchwel gormes ac yn ennill rhyddid. Ond y mae yn anichonadwy cyfeirio at engraifft fwy anffodus. Er holl ragoriaethau cymeriad Cromwell, yn lle rhoddi rhyddid i'r wlad, mathrodd holl egwyddorion cyfansoddiad Prydain dan draed. Daeth gormes y fyddin yu anioddefol, a rhuthrodd y bobl i ddwylaw y Stuartiaid yn ol, ac ymhen 30 mlynedd bu raid gweithio allan ei rhyddid drosodd drachefn.[1]

Ond hwyrach y dywedir, Edrychwch ar y modd yr ennillodd America ei rhyddid a'i hanibyniaeth trwy rym y cleddyf. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau noeth a chelyd. Bu Washington mor fawrfrydig a dychwelyd y cleddyf yn ol i ddwylaw y bobl. Ar fwy nag un achlysur, gwnaeth y milwyr yr hyn y maent bob amser yn dueddol i'w wneud. Ymgynghreiriasant yn erbyn yr awdurdod gwladol, a cheisiasant gan Washington ddod yn frenhin. Gwrthododd. Gwnaeth y fyddin ymgais wedi hynny i drawsfeddiannu'r awdurdod i'w dwylaw eu hunain; ond bu dylanwad

  1. Mewn erthygl arall yn yr Herald of Peace am 1862, t.d. 30 a 42, mae yn dychwelyd at yr un engraifft, gan ddifynnu yn helaeth allan o lyfrau gwahanol haneswyr. Dengys fod y bobl wedi colli eu cariad at ryddid cyn yr Adferiad. Penderfynwyd gwahodd y Brenin yn ol heb ofyn am gymaint ag un ymrwymiad ond llw y coroniad. Yr oedd moesoldeb wedi myned yn isel iawn fel y tystiolaetha Macaulay, a llenyddiaeth wedi llygru yn ddirfawr.