Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/345

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Washington yn llwyddiannus i'w rhwystro. Na, nis gellir byth ymddiried achus rhyddid i ddwylaw milwyr.[1]

Os gofynnir ai nid ydyw pobl i ddefnyddio moddion i ennill eu hiawnderau, yr atebiad penderfynnol yw, Ydynt, yn ddiau. Ond pa foddion? Nerth meddwl, nerth gwirionedd. Meddyliau sydd yn siwr o ddymchwelyd pob trais a gormes. Mae nerth un gwirionedd yn anorchfygol. Carwyr rhyddid, heuwch feddyliau neu syniadau. Yr oedd Mazzini yn 1830 yn dadleu fod hyn yn amhosibl, gan fod y Wasg a phob moddion addysg yn gauedig. Ond beth gymerodd le rhwng 1830 ac 1848? Er pob rhwystr, llwyddodd meddwl rhydd i weithio ei ffordd i Itali, a dengys Mr. Richard y modd yr ymddyrchafodd y genedl yn 1849, a bod y meddyliau a roddwyd ynddi wedi gweithio eu ffordd ac wedi lefeinio yr holl does. Geiriau Mazzini yn awr ydynt, Cyrhaeddodd y cri, Byw fyddo Itali i eithaf arfordir Sicily. .....Gall Itali ymffrostio..... bod ei phlant wedi codi trwy rym meddylddrych." Ond yn anffodus ymaflodd Itali yn y cleddyf, trybaeddodd ef mewn gwaed, ac o'r foment honno selwyd ei thynged, oblegyd fe wyddai gormes sut i drin y cleddyf gyda mwy o rym. Gwyn fyd nad allem ddweud wrth y rhai sydd yn awr yn dioddef,—Credwch yn nerth gwirionedd. Gelynion pennaf rhyddid y dyddiau hyn ydyw ei garedigion proffesedig sydd yn llychwino ei gymeriad mewn gwaed a thrais. Herald of Peace, 1851, t.d. 90 a 102.

Mewn erthyglau erell y mae Mr. Richard yu dangos fel y mae byddinoedd sefydlog Ewrob yn elynol i wir ryddid y bobl. Mewn un o honynt mae yn difynnu geiriau o bapur milwrol yn dangos fel y gall y cleddyf roddi i lawr bob amser anesmwythder ar ran y bobl, gan fod y Swyddogion yn ddieithriad bron o blaid yr awdurdodau.

7. Rhyfel a Gwladgarwch.—Ai trwy amddiffyn ein gwlad ar bob adeg, iawn neu beidio, y dangoswn ein cariad at ein gwlad oreu? Ai trwy ganu

"Stand thou by thy country's quarrel,
Be that quarrel what it may,
He shall wear the greenest laurel
Who shall greatest zeal display?"

Credai Mr. Richard mai gwir garwyr eu gwlad oedd y rhai a ddywedent y gwir yn onest wrthi, ac a'i rhybuddiai o'i pherygl. Mae gwledydd mor agored i fethu ag ydyw personau. Nid oes un o bob mil wedi astudio yr ymdrafodaethau a arweiniasant i'r rhyfel hwn (un y Crimea). Nid têg

  1. Credwn, pe buasai Mr. Richard yn fyw yn awr, er cymaint y gallasai deimlo dros y Transvaal yn ymladd dros eu hanibyniaeth, y dygasai eu hachos hwy yn brawf ychwanegol o wirionedd ei honniad. Pe buasai dewrder yn sicrhau rhyddid, buasai y Gweriniaethau yn awr yn rhydd. Buasai dewrder moesol heb y cledd, ond odid yn ei ddiogelu, a dichon mai trwy foddion moesol yr adenillant ef eto.