Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/346

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd i'r cyfryw gondemnio y rhai oeddent wedi gwneud hynny, fel yn ddiffygiol mewn gwladgarwch. Nid oedd bod y Senedd yn unfrydol yn brawf o iawnder y rhyfel. Mae dysgeidiaeth Hanesiaeth yn profi i'r gwrthwyneb. Yn 1739 fe fynnai y bobl fyned i ryfel yn erbyn Yspaen ar y cwestiwn o hawl i ymchwiliad yn y moroedd americanaidd. "Ni wnaent," ebe Syr Robert Walpole, "wrando ond ar un ochr." Ar ol bod yn brwydro am flynyddoedd, blinodd y bobl ar ryfela, a gwnaed Cytundeb, ebe Smollett, heb air o sôn am yr hawl i wneud ymchwiliad ynddo. Yr un modd yr oedd y bobl yn gwaeddi yn groch am fyned i ryfel yn erbyn Ffrainc yn 1793. Na, nid brwdfrydedd o blaid rhyfel ydyw gwladgarwch. Herald of Peace, 1854, t. d. 140.

Edrychwch ar broffwydi Israel. Pe buasai rhyw un yn y dyddiau hyn yn arfer y fath iaith, ac yn condemnio yr awdurdodau fel y darfu Hosea, Malachi, Jeremiah ac Esaiah, cawsai ei gondemnio fel y teyrnfradwr mwyaf echryslon. Herald of Peace, 1857, t.d. 270.

Nid oedd Mr. Richard yu credu fod gwladgarwch yn rhinwedd i'w glodfori. Nid oedd yu ddim amgen nag un o reddfau ein natur. Nid oedd neb yn synnu at un a garai yr hen fwthyn rhwng y mynyddoedd yn yr hwn y ganwyd ef—yr oedd yn beth eithaf naturiol. Ond nid oedd neb ychwaith yn gorfoli y cyfryw fel pe buasai yn hynod am ryw rinwedd moesol uchel oherwydd hynny. Llawer llai pe cyflawnai ryw weithred anghyfiawu tuag at gymydog oddiar gariad at ei fwthyn ei hun. Pam, gan hynny, y clodforwn gymaint ar wladgarwch? Beth ydyw y moli bythol ar Marathon, Thermopylæ a Palatæ, ond canmol ychydig o Roegiaid am lywodraethu ar bawb arall a'u cadw yn gaethion? Ebe Euripides, "Mae y Groegiaid wedi eu geni i ryddid, a'r barbariaid (sef pawb ereill) i gaethiwed." Dylem gofio nad oos dim mewn gwladgarwch o angenrheidrwydd yn rhinweddol. Mae llawer o'n llenyidiaeth glasurol wedi ein camarwain. Mae dwy egwyddor fawr Cristionogaeth yn groes hollol i'r syniadau hyn, sef undod Duw fel Tad, a brawdoliaeth gyffredinol holl ddynolryw. Nid oes dim canmol ar wladgarwch yn y Testament Newydd. Yr oedd Rousseau yu dwyn hyn fel dadl yn erbyn Cristionogaeth, sef ei bod yn dodi cariad at ddyn, fel y cyfryw, o flaen cariad at ei gydwladwyr. Ond dyma ogoniant Cristionogaeth. Herald of Peace, 1856, t.d 138.

8. Egwyddorion Heddwch yn ddiogel.—A ydyw yn ddiogel ceisio cario allan yr egwyddorion heddychol hynny y dywedir sydd yn cael eu cymhell yn y Testament Newydd? Cymerwn un engraifft. Aeth William Penn, y Crynwr, allan i America gyda'r amcan o sefydlu Trefedigaeth ar egwyddorion Cristionogol. Yn lle cymeryd mantais ar yr hawl Frenhinol oedd ganddo, a chymeryd tir oddiar yr Indiaid, prynodd dir ganddynt, a gwnaeth gytundeb