Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Anfonodd dri yspiwr,
Pob un yn llwm gyfreithiwr,
A'r tri yn Saeson uchel ben,
I Gymru wen mewn ffwndwr.

Y tri wŷr awdurdodol
A aent mewn brys ryfeddol
I gasglu pob budreddi cas
Yn llyfrau glas anferthol.

Ar ôl eu cael yn gryno,
Hwy aethant oll i lunio
Rhyw dri o lyfrau gleision, hyll,
Wnant ym mhob dull ein beio.

Tynnwyd darlun o'r Cymry yn y llyfrau gleision trwchus hyn ag oedd yn synnu Saeson a Chymry fel eu gilydd. Codai y Wasg Seisnig ei dwylaw mewn syndod fod pobl mor farbaraidd yn cyfansoddi rhan o deyrnas Prydain wareiddiedig. Yr oedd Cymru, yn ôl desgrifiad un papur, wedi suddo i ddyfnder anwybodaeth, ac i gors aflendid a llygredigaeth; yr oedd ei harferion mor anifeilaidd fel na oddefent ddesgrifiad.

Fel y gellid disgwyl, tarawyd y Cymry â syndod a digofaint. Nid y desgrifiad a roddai y Dirprwywyr o sefyllfa addysg oedd yn tynnu sylw gymaint. Gwyddai y Cymry am eu diffygion yn y wedd honno ar y pryd, ac nid oedd neb yn fwy awyddus i wella pethau na