Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adeg yma. Yr oedd y cwestiwn o nifer cymhariaethol Ymneilltuwyr ac Eglwyswyr yng Nghymru wedi bod yn tynnu sylw cyffredinol, ac yn 1846 darfu i Weinyddiaeth Arglwydd John Russell ymgymeryd â'r gorchwyl o chwilio i mewn i "sefyllfa addysg yn Nhywysogaeth Cymru, ac yn enwedig y moddion oedd yng nghyrraedd y dosbarth gweithiol i feddu gwybodaeth o'r iaith Saesneg." Er mor dda y gallasai yr amcan fod, troes allan yn dra aflwyddiannus. Gyda'r dylni, neu'r difaterwch hwnnw, sydd yn rhy fynych wedi nodweddu ymddygiad y Llywodraeth at Gymru, penodwyd tri o fargyfreithwyr hollol anghymwys i'r gwaith, sef Mr. Lingen, Mr. Vaughan Johnson, a Mr. Symons. Yr oedd y tri yn Eglwyswyr; yr olaf yn elyn pendant i Ymneilltuaeth Gymreig. Nid oedd un ohonynt yn deall Cymraeg, a chamarweiniwyd hwynt yn druenus gan y rhai y daethant i gysylltiad â hwynt. Ymgynghorasant yn bennaf ag esgobion a chlerigwyr; yr oedd y rhai a alwyd ganddynt i roddi tystiolaeth bron i gyd yn Eglwyswyr, ac o'r Eglwyswyr hynny yr oedd tri o bob pedwar yn glerigwyr. Beth oedd i'w ddisgwyl oddiwrth y fath ddirprwyaeth ond Adroddiad unochrog ac annheg? Nid rhyfedd i Ieuan Gwynedd ganu fel hyn am waith y Weinyddiaeth:—