Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond fod y cwbl yn codi oddiar orthrwm annioddefol, Y canlyniad fu penodi dirprwywyr i wneud ymchwiliad ; dangoswyd fod Cymru yn wlad heddychol ymhob modd arall, a phasiwyd mesur ag oedd yn gwella llawer ar sefyllfa pethau, a chafodd Mr. Richard ddiolchgarwch cynhes ei gydwladwyr am yr hyn a wnaeth.

Nid oedd gweinidog capel Marlborough mor ffôl a meddwl ei fod yn llychwino ei gymeriad trwy gymeryd rhan mewn materion gwladwriaethol, yn enwedig y materion hynny ag oedd yn dwyn cysylltiad ag addysg y bobl. Ymunodd â'i frodyr Ymneilltuol i wrthwynebu mesur Syr James Graham ar Addysg yn y Llaw-weithfeydd, ac, yn ddilynol, yn ffurfiad yr Anti-State Church Association, neu "Cymdeithas Rhyddhad Crefydd."

(1844) Yn 1844 hefyd fe'i penodwyd gan yr Undeb Cynulleidfaol i ymweled ag Eglwysi Anibynnol Cymru gyda'r Parch. John Blackburn, a chafwyd Adroddiad ganddynt ar Sefyllfa Crefydd ac Addysg yng Nghymru.

(1847) Gwnaeth Mr. Richard wasanaeth neilltuol i'w genedl yn 1847, yn amser yr hyn a ddaeth ar ôl hynny, i gael ei alw yn "Frad y Llyfrau Gleision." Nid oes un Cymro cenedl-garol nad yw naill a'i wedi darllen am, neu yn cofio y cyffro a godwyd ymysg y Cymry tua'r