Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dangos tymer garedig y Dr., a'i fod wedi oeri llawer ymhen blynyddau wedi i'r cyffro ddarfod. Ond pan gofiwn yr holl amgylchiadau, a'r teimladau oedd wedi eu codi, nis gallwn lai na meddwl fod y rhai yr ymosoda y Dr. arnynt yn cyfiawn haeddu y fflangell, oddigerth, hwyrach, mai gwell fuasai peidio priodoli gau ddibenion i neb. Pan gofiom y cyhuddiadau, nid rhyfedd fod pob Cymro yn teimlo i'r byw dros gymeriad ei genedl, ac yr oedd yn anhawdd cael neb a allasai ddefnyddio y fflangell yn fwy effeithiol na'r doctor dysgedig o'r Bala.

Ond nid oedd y Saeson, er hyn i gyd, yn gwybod nemawr am ein digofaint fel cenedl hyd nes y daeth Mr. Henry Richard allan i'n hamddiffyn. Yr oedd cwrs o ddarlithoedd yn cael eu traddodi y pryd hwn ar "Addysg," o dan nawdd y Bwrdd Cynulleidfaol. Gofynnwyd i Mr. Richard draddodi un ar "Gynnydd ac effeithiolrwydd addysg wirfoddol yng Nghymru." Ond methodd teimlad cenedlgarol Mr. Richard a pheidio troi holl gwrs ei ddarlith i amddiffyn cymeriad y Cymry yn erbyn camgyhuddiadau y Dirprwywyr. Dygodd ffeithiau diymwad, trefnodd hwynt mewn modd meistrolgar, curodd hwynt ar eingion ei hyawdledd nes oeddent yn wynias, a daliodd hwynt o flaen cynulleidfa astud, do, am ddwy awr a hanner!