Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyhoeddwyd y ddarlith yn y British Banner, ac wedi hynny ymysg y Crosby Hall Lectures. Nid oes un Cymro a ddarlleno y ddarlith hon na theimla ei galon yn cynhesu mewn diolchgarwch i'r gweinidog cymharol ieuanc hwn oedd fel hyn yn sefyll yn ddewr yn y brif ddinas i droi yn ôl, gyda'r fath rym, y picellau gwenwynig a anelwyd gan y Dirprwywyr at galon Cymru. Cof gan yr ysgrifennydd ddarllen y ddarlith ar y pryd yn y British Banner, ac wrth ei darllen yr oedd ei galon Gymreig yn curo, a' i waed yn cyflymu trwy ei wythiennau. Cynghorem y darllenydd i astudio y ddarlith hon os caiff afael arni. Goddefer i ni ddyfynnu yr ychydig eiriau olaf o honni. Ar ol condemnio y Dirprwywyr am gasglu pob budreddi a allent fel esiamplau o gymeriad y Cymry, y mae yn gofyn pa le, yn y llyfrau gleision, yr oedd dim i'w gael am eu rhinweddau, ac yna y mae, gyda hyawdledd, yn eu nodi, a therfyna gyda'r geiriau canlynol : —

"Pa le mae'r hanes am gymeriadau a rhinweddau y dynion hyn? Y mae cannoedd a miloedd ohonynt i'w cael yr wyf yn gwybod. Onid wyf wedi bod yn sefyll o dan eu cronglwydydd llwydaidd, lle yr oedd y tylathau noethion wedi eu caboli a'u duo gan fwg mawn y mynyddoedd? Onid wyf wedi eistedd wrth eu byrddau ffawydd, noeth, i gyfranogi o'u bara ceirch a'u llaeth