Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enwyn, bwyd, er mor gyffredin ydoedd, y teimlent yn falch cael ei gynnyg yn groesawus? Onid wyf wedi penlinio ar y llawr pridd wrth erchwyn y gwelyau gwael yr oeddynt yn gorwedd arnynt, ac wedi clywed gwersi yn disgyn oddiar wefusau oeddent yn welw gan ddynesiad angeu, yn dangos ymostyngiad Cristionogol ac ymddiried santaidd a gorfoleddus yn Nuw, y fath na chlywais yn un man arall? Pa le, meddaf, y mae y dynion hyn, y rhai a wasgarasant oleu eu duwioldeb gostyngedig dros fryniau a dyffrynnoedd gwlad fy ngenedigaeth? Nid wyf yn canfod dim son am danynt yn y llyfrau gleision hyn, a hyd nes y gwnaf ganfod hynny, yr wyf yn gwrthod derbyn eu cynhwysiad fel darluniad teg o gymeriad fy nghydwladwyr."

Parodd traddodiad yr araeth ardderchog hon i enw Mr. Richard gael ei barchu yn fawr gan Gymru. Teimlai fod un o'i phlant ei hun wedi anturio sefyll i fyny yn ddewr i'w hamddiffyn yng nghanol ei gelynion, a gwnaeth fwy i ddyrchafu ei chymeriad nag, ond odid, a wnaeth y Dirprwywyr i'w darostwng.

Yn ystod yr amser hwn yr oedd Mr. Richard yn ymgysegru i'w waith gweinidogaethol yng nghanol ei lyfrau, yn debyg iawn fel y dychmygai ei dad, cyn hynny, am dano wrth ysgrifennu ato, sef ei fod "yn awr yn y parlwr, maes law yn y pulpud, weithiau yn eich ystafell, pryd arall yn nhŷ'r capel, yn awr yn parottoi eich pregethau, yn fuan ar ol hynny yn eu traddodi,