Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weithiau yn eich ystafell yn ymdrechu gyda Duw, ac ymhen ychydig drachefn, yn y deml yn cynghori, yn gwahodd, ac yn ymresymu â phechaduriaid." Dyna yn hollol oedd bywyd gweinidogaethol Mr. Richard, er ei fod yn ychwanegu, at hynny, gyfansoddi a thraddodi areithiau ar faterion ereill y tu allan i'r pulpud. Fel Dr. Chalmers, darllen ei bregethau y byddai Mr. Richard bron bob amser, ond, fel y Dr., darllenai hwynt yn y fath fodd fel nad oeddid yn colli dim bron o'r dylanwad hwnnw ag sydd yn gwneud traddodiad rhydd mor effeithiol. Clywodd yr ysgrifennydd ef yn traddodi darlith, yr hon a ddarllenai, gyda'r fath nerth fel ag i gyffroi yr holl gynulleidfa i'r brwdfrydedd mwyaf.

Yn y Traethodydd am y flwyddyn 1848 cawn erthygl ddysgedig o'i eiddo ar "Athroniaeth y meddwl," sef adolygiad ar lyfr Morell ar "Athroniaeth Ewrob yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg;" erthygl ag sydd yn dangos fod Mr. Richard yn wir etrydydd, ac yn gallu ysgrifennu Cymraeg da ar bwnc dyrus mewn athroniaeth. Fel hyn yr oedd Mr. Richard, trwy astudiaeth ddwys a llafur diflino, yn cymhwyso ei hun i'r gwaith mawr a phwysig a gyflawnodd yn ei oes. Gweithiwr, ac nid segurwr, ydoedd.