Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IV

Mr. Richard yn cael ei benodi i fod yn Ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch—Ei lafur dros y Gymdeithas—Cynhadleddau Brussels, Paris, Frankfort, a Llundain—Yn rhoi i fyny ei Swydd Weinidogaethol—Arglwydd Palmerston a'r Gymdeithas Heddwch—Cynhadleddau Manchester ac Edinburgh.


(1848) Yn y flwyddyn 1848, ymgymerodd Mr. Richard â gorchwyl a droes allan wedi hynny yn brif waith ei fywyd, gwaith a'i dygodd i gysylltiad â rhai o brif enwogion y deyrnas a Chyfandir Ewrob ac America, ac a wnaeth ei enw yn adnabyddus ym mhob man fel prif "Apostol Heddwch." Cyfeiriwn at ei benodiad, ym mis Mai y flwyddyn uchod, i fod yn ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch yn lle y Parch. John Jefferson, yr hwn a ymddiswyddodd oherwydd afiechyd. Profwyd, yn ystod y blynyddoedd dyfodol, mai gwir oedd datganiad pwyllgor y Gymdeithas eu bod yn cael yn Mr. Richard "olynydd galluog ac effeithiol."

Bu y Gymdeithas Heddwch yn ymlwybro ymlaen er dechreu y ganrif. Yr oedd y wlad y pryd hwnnw wedi syrffedu ar y rhyfeloedd, y