Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhai a derfynasant yng Nghynhadledd Heddwch Paris ym mis Tachwedd, 1815, a theimlai Cristionogion yn arbennig, fod yn llawn bryd meddwl o ddifrif am ryw lwybr i derfynu cwerylon rhwng teyrnasoedd, heblaw yr un barbaraidd o osod dynion i ladd eu gilydd. Mor fuan a'r flwyddyn 1814, galwodd un Mr. William Allen, F.R.S., aelod o Gymdeithas y Cyfeillion (Crynwyr), nifer o fonheddwyr i'w dŷ i geisio sefydlu cymdeithas i'r amcan hwnnw; ond ni wnaed hynny hyd y flwyddyn 1816, pan y darfu i Mr. Allen, a'i gyfaill, Joseph Tregelles Price o Sir Forgannwg, yntau yn Grynwr, alw nifer o gyfeillion a sefydlu Cymdeithas Heddwch. Yr oedd mwyafrif yr aelodau yn Grynwyr, ond nid yr oll. Egwyddor y gymdeithas oedd "fod rhyfel yn groes i ysbryd Cristionogaeth a gwir les dynolryw." Nid oedd, ac nid yw, y gymdeithas yn cau allan neb sydd "yn awyddus i ymuno i ddwyn oddi amgylch dangnefedd ar y ddaear, ac ewyllys da i ddynion."

Ffurfiwyd canghennau ar y cyfandir, a pharhawyd i gadw yr egwyddor o flaen y byd trwy y Wasg a thrwy foddion ereill yn ystod yr holl flynyddoedd. "Am flynyddau lawer," medd Mr. Richard ei hun mewn erthygl yn y Traethodydd am 1849, t.d. 239," taflwyd arnynt hwy a'u hymdrechion bob