Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dirmyg; nid yn unig gan ein pendefigion a'n llywodraethwyr a'r gad filwraidd o bob gradd, y rhai oeddent, 'oddiwrth yr elw hwn, yn derbyn eu golud, ond gan y rhan amlaf o lawer o Gristionogion ein gwlad, ac hyd yn oed gan lawer o weinidogion yr Efengyl."

Blwyddyn hynod oedd 1848, y flwyddyn y penodwyd Mr. Richard i'r swydd; blwyddyn drylliad gorseddau, syrthiad coronau, chwaliad hen sefydliadau a ffoad brenhinoedd. Ym Mhrydain yr oedd cyffro ymysg y Chartiaid, ac yn yr Iwerddon ymysg y Gwyddelod; ar y cyfandir fe gyhoeddwyd rhyfel rhwng Awstria ag Itali, a rhwng Germani a Denmarc. Yr oedd yr Unol Dalaethau a Mexico hefyd yn ymladd brwydrau creulon a'u gilydd. Yn Switzerland yr oedd rhyfel cartrefol rhwng y gwahanol randiroedd (cantons) yn ysu y wlad; a Ffrainc, fel y gwyddys, fel crochan berwedig ar y pryd. Bu raid i Louis Phillippe, brenin Ffrainge, ddianc i Loegr o dan yr enw Mr. Smith, a chyhoeddwyd y Weriniaeth. Tybiodd rhai fod dydd dymchweliad pob trais a gormes wrth y drws, ac aeth llawer i astudio y seliau a'r phiolau, ac esponio y proffwydoliaethau. Bu un o brif feirdd a darlithwyr Cymru yn prysur esbonio y dirgeledigaethau ac yn dyfalu am y dyfodol.