Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aeth Mr. Richard, pa fodd bynnag, nid i ddychymygu, ond i weithio. Credai fod y "dirgeledigaethau yn eiddo yr Arglwydd," a bod llafurio mewn achos da yn un o'r "pethau amlwg" a roddwyd iddo ef. Taflodd ei hunan o ddifrif i'r gwaith a gymerasai mewn llaw, a theimlai mai dyma'r pryd i gyfeillion heddwch godi eu llef o blaid eu hegwyddorion. Rhoes fywyd newydd yn y gymdeithas. Ymysg pethau ereill, perswadiodd ei phwyllgor i annerch gwahanol lywyddion y teyrnasoedd mewn ymrafael i geisio eu perswadio i wrando ar lais rheswm; a phan godwyd y cri yn Lloegr, fel y gwneir bob amser gan y blaid filwrol pan welant gyfleustra, fod y wlad hon hefyd mewn perygl, defnyddiodd Mr. Richard ei ysgrifell a'i lais i wneud a allai, mewn cydweithrediad a'i gyfeillion, Cobden a Bright, i dawelu yr ystorm, ac nid oes neb a all fesur y lles a wnaeth y gwŷr da hyn ar y pryd. Pan ddaeth ei gyfaill, Elihu Burritt, y gof dysgedig, drosodd o'r America i'r wlad hon gyda'i gynllun i gynnal nifer o Gynhadleddau rhyngwladwriaethol, cafodd groesaw calon gan Mr. Richard, a chan yr hen Grynwr gwrol, Joseph Sturge o Birmingham. Y mae Mr. Richard ei hun yn y rhifyn a nodwyd eisoes o'r Traethodydd, o dan y pennawd "Heddwch," yn rhoi hanes y Gynhadledd