Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyntaf yn Brussels; ond gyda'i ledneisrwydd arferol ceidw ei hun o'r golwg, er mewn gwirionedd, mai efe a Mr. Burritt oedd enaid y gynhadledd bwysig hon. Yr oedd ymgymeryd â'r fath waith, ar y fath adeg gyffrous yn hanes Ewrob, yn gofyn doethineb a gwroldeb digyffelyb. Dyma'r tro cyntaf i'r fath ymgynulliad gymeryd lle o blaid heddwch, ac yr oedd yr anawsterau ar y ffordd yn ymddangos ar y pryd yn anorfod. Yr oedd y bobl—er wedi blino ar ryfel—eisieu eu deffroi a'u codi i weithio ymhlaid egwyddorion heddwch, ac ymaflodd Mr. Richard yn y gorchwyl hwn gydag ynni a llafur dihafal.

Aeth efe a Mr. Burritt i Brussels i wneud y trefniadau; ymwelsant â phrif ŵyr Llywodraeth Belgium, a dadleuasant eu hachos gyda sêl a doethineb nid bychan. Gorchymynnodd M. Rogier, y Prif Weinidog, i'w ysgrifennydd roddi iddynt lythyrau at amryw o brif ddinasyddion Brussels, ac ymysg ereill at M. Visschers, yr hwn oedd ei hun yn aelod o'r Llywodraeth, a'r hwn a etholwyd mewn canlyniad i fod yn Llywydd y Gynhadledd. Ar ol gwneud yr holl drefniadau, aeth 200 o Ddirprwywyr Prydeinig ac Americanaidd ar y 19eg o Fedi i Ostend, ac aethant mewn cerbydres arbennig, wedi ei danfon ar draul y Llywodraeth, oddiyno i Brussels.