Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cynhaliwyd y Gynhadledd yn neuadd ardderchog yr Harmonic Society, yr hon oedd wedi ei haddurno â banerau y gwahanol deyrnasoedd; parhaodd am dridiau, a chymerwyd rhan yn y cyfarfodydd gan rai o wŷr enwocaf Ffraingc, Holland, Itali, America a Phrydain. Yr oedd yno hefyd gynrychiolwyr o Loegr, Ysgotland a Chymru.

Er fod y Cynhadleddau hyn bellach yn rhai blynyddol, yr oedd yr un gyntaf fel hyn yn Brussels yn tynnu sylw yr holl fyd gwareiddiedig ymron. Fel y dywed Mr. Richard ei hun, "Peth newydd yn hanes y byd oedd gweled trigolion saith neu wyth o wahanol wledydd Ewrob, y rhai a fuont am lawer o ganrifoedd yn cashau, yn rhwygo, ac yn traflyncu eu gilydd, yn awr yn eistedd ochr yn ochr i ystyried y dull goreu i uno holl genhedloedd y ddaear yn rhwymyn tangnefedd."

Ar ddiwedd y Gynhadledd, dywedodd y Llywydd,—"Y mae presenoldeb Apostolion, Heddwch (Mr. Richard a Mr. Burritt) yn ddigwyddiad ag y mae ein pobl ni yn cymeryd dyddordeb mawr ynddo, a da gennyf ddweud fod carreg gyntaf Teml Heddwch wedi ei gosod yn Brussels." Fel hyn y coronwyd llafur y gof dysgedig o'r America, a'r pregethwr ymneilltuol o Loegr y Cymro o Dregaron—â llwyddiant