Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

annisgwyliadwy, a phenderfynwyd cynnal Cynhadledd gyffelyb y flwyddyn ddyfodol yn Paris.

Byrdwn araeth Mr. Richard oedd, fod rhyfel yn hollol anghyson â holl ysbryd Cristionogaeth. Teimlai fel cynrychiolydd y Gymdeithas Heddwch, fod eisieu rhoi arbenigrwydd i'r wedd hon ar y pwnc,—

"Er y gellid" meddai, "gael rhesymau anwrthwynebol yn erbyn rhyfel oddiwrth egwyddorion cyfiawnder, dyngarwch, rhyddid, gwareiddiad, a masnach, eto nid oedd condemniad rhyfel yn dod o un man gyda chymaint o awdurdod a phwyslais, a phan y dygid ef at faen prawf Cristionogaeth. Pan ystyrid beth oedd rhyfel, ei ddrygau, ei greulonderau, ei erchyllderau, yr egwyddorion drygionus, sef uchelgais, trachwant, a dialedd, oedd yn rhoi bod iddo; fel yr oedd yn dwyn allan holl nwydau mwyaf drygionus ein natur, dig, cenfigen, casineb anghymodlawn a nwydau anifeilaidd; pan gofid beth oedd rhyfel wedi ei wneud ym mhob oes, y dinistr ac ing a ddygasai i anheddau y ddynoliaeth, fel yr oedd wedi gorchuddio y ddaear â gwaed goreu ei meibion, wedi herio honiadau iawnder ac wedi dirdreisio ysbryd dynoliaeth; y modd yr oedd wedi hyrddio miliynau o ddynion i bresenoldeb ofnadwy y Barnwr tragwyddol a'u dwylaw wedi eu trybaeddu yng ngwaed eu brodyr, a'u hysbrydoedd wedi eu llyrgunio gan y nwydau mwyaf creulon a gorwyllt; pan ystyrid yr holl bethau hyn, yr oedd, mewn gwirionedd, yn ymddangos yn beth hynod fod yn rhaid i neb sefyll i fyny yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg o oes Crist, yng nghanol gwledydd Cristionogol,