Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i geisio profi fod y fath gyfundrefn a hon o angenrheidrwydd yn hollol anghydweddol, ac mewn gwrthdarawiad tragwyddol â holl ysbryd a naws crefydd Crist."

Aeth Mr. Richard ymlaen fel hyn gyda hyawdledd ag oedd yn cario dylanwad anghyffredin ar y dorf o ŵyr enwog oedd o'i flaen, a diweddodd ei araeth yn y geiriau a ganlyn,—

"Uwchlaw popeth rhaid i ni ddangos rhyfel yn ei liw ei hun. Rhaid i ni feddu digon o wroldeb i rwygo'r gorchudd oddiar ei wyneb; ac heb falio dim am y pomp a'r gwychder sydd ynglŷn ag ef, a'r ymadroddion chwyddedig am anrhydedd, gwladgarwch, a gogoniant, â pha rai y mae yn arfer cuddio a lliwio ei wir gymeriad, rhaid i ni ei ddangos o flaen llygad y byd fel y mae mewn gwirionedd; yn llofrudd cawraidd wedi meddwi ar chwant ac uchelgais, ac wedi ei drybaeddu yn arswydus gan waed ei fyrddiwn aberthau."

Nid ydym yn gwneud un esgusawd dros roddi ychydig ddarnau fel hyn o araeth gyntaf Mr. Richard yn y Gynhadledd yn Brussels. Dangosant ei fod wedi ei drwytho â'r un ysbryd o atgasrwydd at ryfel, a'i fod yn defnyddio yr un rhesymau yn ei erbyn, sef ei wrthdarawiad uniongyrchol yn erbyn Cristionogaeth, ag a fu yn ei lywodraethu trwy ei oes.

Rhoes y Gynhadledd hon symbyliad neilltuol i achos heddwch. Casglwyd cronfa o bum mil o bunnau, a helaethwyd yr Herald of Peace, yr