Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwn a olygid ac yr ysgrifennid iddo yn helaeth gan Mr. Richard ei hun. Tynnwyd sylw at gwestiwn Heddwch hefyd trwy fod Mr. Cobden wedi dwyn y pwnc o Gyflafareddiad o flaen y Senedd ar y 14eg o fis Mehefin, 1849, pryd y cafwyd 79 allan o 176 o'i blaid.

Gwnaeth Mr. Richard lawer o blaid y cynygiad hwn, a bu hefyd yn gynhorthwy mawr i Mr. Cobden yn ei lafur yn achos heddwch; oblegid erbyn hyn, ystyrrid ef yn un o'r awdurdodau uchaf ar gwestiynau yn dwyn cysylltiad â'r achos. Cynhaliodd Elihu Burritt ac yntau, gydag ereill, ym mhrif drefydd y deyrnas, o ddeugain i hanner cant o gyfarfodydd o blaid egwyddorion heddwch ; a diau fod y llwyddiant a gyfarfu Mr. Cobden pan ddygodd y pwnc o flaen y Tŷ fel hyn am y waith gyntaf, i'w briodoli, i fesur mawr iawn, i lafur Ysgrifennydd brwdfrydig y Gymdeithas Heddwch. Mewn llythyr at Mr. Sturge, dywed Mr. Cobden fod y deisebau cyntaf o blaid Cyflafareddiad yn cael eu derbyn gan aelodau y Tŷ gyda gwawd a dirmyg cyffredinol ; ond pan ddygodd ei gynhygiad ymlaen, cafodd y gwrandawiad mwyaf astud. Ac y mae yn cynghori Mr. Sturge, fel y cynghorodd Mr. Richard ar ol hynny, i lynu wrth yr egwyddor fod rhyfel yn anghristionogol, tra y byddai ef ac ereill yn dadleu y wedd