Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddo yntau. Ein cyngor i'w Arlwyddiaeth ydyw hwn,—ar fod iddo geisio llywodraethu ei dafod, a pheidio bod mor barod i daflu ei ddirmyg ar bersonau sydd o leiaf gystal ag yntau yn y pethau sydd yn hawlio parch ac ymddiried ein cyd—ddinasyddion. Y mae yn awr yn hen ŵr, a dylai fod ganddo ddigon o lywodraeth arno ei hun fel ag i beidio cyffroi dygasedd a rhagfarn tuag ato ei hun, a'r rhai sydd gydag ef yn y Weinyddiaeth, trwy ei anfoes— garwch a'i dafod rhydd."

Yr oedd Mr. Richard yn amddiffyn ei gyfeillion, cofier, ac fe welir mai nid gŵr i gellwair ag ef ydoedd pan wedi twymno, er ei fod yn "Apostol Heddwch."

(1853) Yng ngwyneb teimlad y wlad ar y pryd, tybiodd y Gymdeithas Heddwch mai dymunol fyddai cael Cynhadledd yn 1853, y tro hwn yn Manchester. Ymroddodd Mr. Richard i'r gwaith gyda'i ynni arferol. Penderfynwyd casglu deng mil o bunnau. Casglwyd pedair mil mewn hanner awr o amser mewn un cyfarfod. Arwyddwyd y cylchlythyr, yn galw y Gynhadledd ynghyd, gan ddau gant o wŷr dylanwadol, pedwar ar bymtheg ohonynt yn aelodau Seneddol. Areithiwyd yn y cyfarfodydd gan y cadeirydd, Mr. George Wilson (cadeirydd enwog y Corn Law League), a lluaws mawr o wŷr enwog ereill, megys Cobden, Bright, Dr. Davidson, &c. Rhoes Mr. Richard, yn un o'r