Nid rhyfedd chwaith, chwareu teg iddi! Nid pob un sydd wedi gallu darostwng digon ar y corff, i wasanaethu ar alwadau y meddwl bob amser o'r nos. Ac nid ydym yn sicr, chwaith, na fyddai yn well iddo yntau, fel pawb ereill, gysgu yn amser cysgu. Nid ydym yn meddwl y byddai neb yn golledwyr o hyn yn y pen draw. Y mae amser i bob peth, meddai Solomon, a doethineb yw gwneud pob peth yn ei amser ei hun. Felly, yn y pen draw, y gwneir mwyaf o waith; a gwneir ef lawer yn well. Ond, gan nad beth a ddywedwn yn erbyn yr arferiad hon, o eiddo Shadrach ac ereill, y mae ei ddiwydrwydd, er hyny, yn amlwg. A chan iddo ef allu gwneud cymaint o waith, drwy ymroddiad a diwydrwydd, pa faint ellid ei wneud gan ereill sydd wedi eu bendithio â chryfach galluoedd, a rhagorach manteision!
Yr oedd Shadrach, fel pregethwr, yn sefyll yn bur uchel. Ystyrid ef, yn gyffredin, yn un o bregethwyr poblogaidd ei ddydd: yn gymaint felly fel y gwahoddid ef yn aml i bregethu mewn cymanfaoedd. Ac ni chawsom un lle i feddwl fod ei boblogrwydd yn gorphwys ar seiliau amheus, ychwaith. Nid bob amser y gellir dyweyd hyny am boblogrwydd. Y mae poblogrwydd gwirioneddol, yn ddiau, yn un o'r talentau gwerthfawrocaf: ac y mae gan y rhai a'i meddant fantais annghyffredin i wneud llawer o ddaioni. Ac, os yw hi yn gyfreithlon i ni ddeisyf y doniau goreu, diau y dylem ddeisyf y ddawn o boblogrwydd. Ac heblaw ei cheisio, dylai pob dyn cyhoeddus wneud ei oreu i'w sicrhau. Nid yw poblogrwydd gwirioneddol ond rhagor o nerth i ddylanwadu ar ein cyd-ddynion. Er hyny, nid pob math o boblogrwydd sydd yn dda; am nad ydyw yr hyn a elwir felly yn fynych yn cydweddu â'r efengyl, nac, yn y pen draw, ychwaith, â'r natur ddynol. Yn ein byw nis gallwn lai na meddwl fod hyd yn nod poblogrwydd yn costio gormod i rai. Os rhaid i ni aberthu y gonestrwydd a'r difrifoldeb; y symlrwydd, ac eto'r mawredd; y parchusrwydd a'r awdurdod; y tynerwch, ac eto'r llymder, a nodweddent ein Harglwydd a'i apostolion, mewn trefn i fod yn boblogaidd, yna, yr Arglwydd a'n gwaredo ni rhagddo. Y mae poblogrwydd, ar y telerau hyn, yn llawer rhy ddrud; am fod rhaid digio Duw er cael cymeradwyaeth dynion. Y mae yn ddyledswydd arnom wneud