Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ein hunain yn bobpeth fel yr enillom rai; ond rhaid i'r pobpeth hyn gydsefyll ag ysbryd a chenadwri yr efengyl. Heb hyn, bydd yr hyn a elwir yn boblogrwydd yn rhwystr i'r gwirionedd. Ac nid ydym yn sicr nad yw llawer o'r hyn a elwir yn boblogrwydd, yn y dyddiau presenol, yn sarhad ar yr efengyl a bregethir. Ymostyngir, weithiau, o leiaf mor isel a'r bobl, mewn materion o chwaeth, tybir fod hyny yn cymeryd. Nid teilwng o'r areithfa ydyw hyn. Dylai y rhai sydd i godi ereill fod o hyd mewn cyfleusdra i ddyweyd wrth bob cynulleidfa y byddont yn gweini iddi,—dring i fyny yma.' Y mae yn ddiau nad yw y gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu, ddim yn anngharuaidd, yn farw, nac yn oer; ac y mae mor sicr a hyny na ddylai y pregethiad o hono fod felly. Ond os yw y gwirionedd yn hardd ac yn garuaidd, ynddo ei hun, na cheisier ei ysnodenau â dyfeisiau dychymyg dynol, ond dangoser ef fel y mae. Ac os yw y gwirionedd yn fywiol, yna, ymddibyner mwy ar y bywioldeb hwn, dan ddylanwad yr Ysbryd, nag ar un math o drydan o gynyrchiad dyn. Ac os yw y gwirionedd yn gynhes, yna gofaler mai y cynhesrwydd hwn sydd yn elfen yn ein poblogrwydd, ac nid un math o dân dyeithr a gynyrchir trwy ysgrechian a dulio.

Nid oedd Shadrach yn cael ei nodweddu gan bwys ei feddyliau na manyldeb ei ymresymiad. Nid rhyw lawer o ymresymiad oedd yn ei feddwl. Ond, a barnu oddiwrth ei bregethau argraffedig, yr oedd yn hynod ar gyfrif cyfiawnder ei fater. Nid ymddengys ei fod byth mewn cyfyngder am beth i'w ddyweyd. Yr oedd wedi ymgydnabyddu yn drwyadl â phrif dduwinyddion y dyddiau hyny; ac yr oedd ganddo gyflawnder o'u duwinyddiaeth at ei law. A phan fyddai ereill yn cymeryd amser i ymresymu gosodiad penodol allan, prysurai Shadrach yn y blaen, gan ychwanegu gosodiad at osodiad, ac apelio, yn benaf at ffydd y gwrandawyr, yn hytrach nag at eu gallu ymresymiadol. Ac os gallai ddyweyd—"Fel hyn y dywed yr Arglwydd," nid ewyllysiai apelio at ddim arall ar y pwnc hwnw.

Y mae hyn yn ein harwain i sylwi ei fod yn hynod, fel pregethwr, ar gyfrif y defnydd a wnai o'r Beibl. Fel y cyfeiriasom, yn y dechreu, yr oedd yn un o'r ysgrythyrwyr goreu yn ei oes, Nid ydym yn cyfeirio, yn gymaint, at gywirdeb ei