esboniadau ag at ei hyddysgrwydd yn nghynwysiad y Beibl. Ymdrechai brofi pob gosodiad o'i eiddo âg un adnod, o leiaf, ac, yn fynych, pentyrai luaws o adnodau i brofi yr un pwnc, gan nodi, yn fanwl, y llyfr, y bennod, a'r adnod. Ac yn hyn y mae yn deilwng o efelychiad. Nid ydym yn meddwl nad oes gan ymresymiad le yn yr areithfa: gwyddom fel arall. Ond os bydd y Beibl yn profi gosodiad penodol, y mae synwyr cyffredin yn galw arnom i wneud defnydd o hyny, yn hytrach na dim arall. Nid ydym yn meddwl y dylid pentyru adnodau ar bob pwnc fel y gwnai Shadrach; na, yn hytrach dangoser fod rhyw un neu ddwy o adnodau a ddifynir yn profi y pwnc, mewn gwirionedd. Gellir ymddiried fod un neu ddwy o adnodau priodol yn ddigon i wneud pob gosodiad yn gadarn. Ac os mynir, dangoser wedi hyn fod dysgeidiaeth y Beibl ar y pwnc yn hollol gydunol â rheswm. Ond na foed i'r Beibl, er neb na dim, gael ei annghofio, i roddi lle i rywbeth arall. Nis gellir byth roddi gormod o bwys ar y gwirionedd mai y Beibl yw text-book yr areithfa.
Yr oedd Shadrach hefyd yn bur eglur. Er ei fod yn siarad ar bob math o bynciau duwinyddol, eto, yn gyffredin, yr oedd yn bur ddealladwy. Y mae hyny i'w briodoli, mewn rhan, yn ddiau, i'w ddull gosodiadol o bregethu. Anfynych y mae pobl gyffredin yn gallu deall ymresymiad caeth, hyd yn nod mewn traethawd. Er y gall yr ymresymiad fod mor eglur ag y gellir yn rhesymol ddysgwyl iddo fod, a chofio mai ymresymiad yw, eto, y mae yn lled debyg y bydd llawer o'r rhai na wyddant nemawr am ymresymu, o ddiffyg tueddfryd naturiol, neu, efallai, o ddysgyblaeth feddyliol, yn hyf-gyhoeddi fod y cyfan yn dywyll ac annealladwy. Y mae yn eithaf tebyg, hefyd, ei fod yn dywyll iddynt hwy; er nad yw hyny yn un prawf ei fod yn dywyll ynddo ei hun, fel ymresymiad. Yn ei ffordd ef, y mae yn ddian nad oes lyfr mwy eglur, dealladwy, a boddhaol nag ydyw Euclid; ond, atolwg, beth feddyliai y rhai hyn am dano! Y fath dryblith a charnedd ddidrefn ganfyddent yn y Pons Asinorum! Er hyny, adeilad godidog yw y "bont," gan nad beth am y bodau hir-glust a geisiant, ond a fethant, fyned drosti. Nid hawdd iawn, ychwaith, y gellir ei gwneud yn fwy dealladwy nag ydyw. Er hyny, na feier y bobl hyn am deimlo,