Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y tywyllwch; ond beier hwynt am gyhoeddi fod rhywbeth yn dywyll ynddo ei hun, am ei fod yn dywyll iddynt hwy. Ond diau fod deall ymresymiad caeth yn anhawddach mewn pregeth nag ydyw mewn traethawd, am nad oes amser i aros uwchben gwahanol bethau, a dilyn y pregethwr, yr un pryd. Yn y dull gosodiadol o bregethu, nid oes ond gwirioneddau ar eu penau eu hunain yn galw am ein sylw: ond yn y dull ymresymiadol, yr ydym yn edrych ar wirioneddau, nid yn unig ar eu penau eu hunain, ond hefyd mewn cysylltiad â'u gilydd; ac yn olrhain pa fodd y mae un gwirionedd yn dilyn oddiwrth y llall. Os oedd dim yn gwneud Shadrach yn dywyll i neb, ei arferiad mynych o eiriau celfol duwinyddiaeth (technical terms) megys, Cynnrychiolwr, Penarglwyddiaeth, &c., oedd yn ei wneud felly. Ond y mae pob un sydd wedi cael ychydig o brofiad ar bregethu athrawiaethau crefydd, yn gwybod yn dda mai nid hawdd iawn y gellir gwneud hebddynt.

A nodweddid ef, yn neillduol, gan ei lais cwpasog. Er nad oedd ond dyn bychan, fel y gwelsom, eto yr oedd ei lais yn nodedig. Ac yr oedd y llais hwn yn gwbl at ei law: a phan ddynesai, fel y ceisiai wneud o bob man, at Grist a'i groes, yr oedd ei floeddiadau yn wefreiddiol. A diau mai nid yr elfen wanaf yn ei boblogrwydd oedd hon. Dyweder a fyner, y mae rhywbeth mewn sŵn; ac yn y llais dynol yn enwedig. Os bydd pobl yn dra choethedig, y mae yn debyg y gosodant fwy o bwys ar ansawdd y llais nag ar ei swm: ond, fynychaf, y swm yw hi gyda'r bobl gyffredin. Gyda golwg arnynt hwy, gellir dyweyd yn gyffredin:

"Gwaedd, gwaedd, O am waedd,
Peth melus dros ben ydyw ambell i waedd."

Yr oedd yn ymddangos yn bur hoff o gymhariaethau'r Beibl. Ac y mae yn ymddangos yn bur gelfydd, yn fynych, wrth geisio cael y meddwl allan o honynt. Ymddengys i ni, fodd bynag, ei fod weithiau yn myned yn rhy bell y ffordd hon; ac mewn canlyniad, yn ceisio tynu gwirioneddau o gymhariaethau y Beibl, na fwriadodd yr Ysbryd Glân erioed, feddyliem ni, iddynt fod yno. Mae yn ddiau fod fancy Shadrach yn cael