Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD.

Nid oedd gan awdwr y llyfryn hwn yr un meddwl yn y byd, ar y cyntaf, i'w gyhoeddi yn ei ffurf bresenol. Ar gais un o Olygwyr y BEIRNIAD y darfu iddo ymgymeryd â'r gorchwyl o ysgrifenu ychydig o hanes Bywyd a Gweithiau Awdurol Azariah Shadrach o gwbl, heb un amcan pellach mewn golwg ar y pryd nag iddo ymddangos yn y cyhoeddiad hwnw. Ar graffwyd yr hyn a ysgrifenwyd ganddo, mewn cydsyniad â'r cais hwn, mewn tri o Rifynau, sef yn y rhai am Ion. a GORPH., 1861, yn nghyd ag yn yr un am Hyd. 1862. Wedi gweled o honynt y rhifynau hyn, tybiai rhai cyfeillion mai peth dymunol fyddai cael yr hyn a ysgrifenwyd am Shadrach a'i Weithiau ar ei ben ei hun; ac anogent yr awdwr i'w gyhoeddi felly. Gan ei fod yntau yn teimlo y carai gael cyfleusdra i ddiwygio rhai pethau, ac i ychwanegu pethau eraill, darfu iddo, drwy gydsyniad cynhes perchenogion y BEIRNIAD, ymgymeryd â'r gorchwyl. Wrth wneyd hyn, yr oedd yn llawen ganddo hefyd ei fod yn cael lle, nid yn unig i foddhau cydnabyddion a chyfeillion Shadrach, ond hefyd i wneyd ei ran i drosglwyddo i'r plant a enir ychydig o hanes hunanymwadiad dirfawr, a llafurus gariad, y tadau. Dymuna yr awdwr ddychwelyd ei ddiolchgarwch calonog i berchenogion y BEIRNIAD, nid yn unig am ganiatau iddo