Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddefnyddio yr hyn & ymdılangosodd yn y cyhoeddiad hwnw, ond hefyd am y parodrwydd a'r hynawsedd a amlygasant wrth wneud hyny.

Teimla yr awdwr fod gwerth bywgraffiad yn ymddibynu ar y gwersi ellir dynu oddiwrtho. Pan yn olrhain ac yn cofnodi hanes Bywyd a Gweithiau Azariah Shadrach, gan hyny, amcanai fachu wrthynt y gwersi a'r gwirioneddau hyny y meddent gymhwysder i'w gosod allan. Oblegyd hyn, ceir yn y llyfryn hwn rywbeth mwy na chofnodiad syml o ffeithiau hanesyddol.

Dymuna yr awdwr hysbysu mai nid oblegyd un teimlad o anmharch i enw na choffadwriaeth Azariah Shadrach y peidiwyd ei alw yn "Barchedig," ar y wyneb-ddalen na thrwy gorff y gwaith. Teimlid yn hytrach fod enw Shadrach yn rhy adnabyddus a theuluaidd i'w barchedigo fel hyny.

HEOL MAENGWYN,

Ionawr, 1863.