Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bynol; am hyny y mae pob creadur yn rhwym (yn sicr?] i ddadfeilio, a myned i sefyllfa îs, os na bydd yn parhaus dderbyn o law un arall, sef o law ei Greawdwr.

Iago. Paham na buasai Duw yn creu dyn yn hunan-ymddibynol; ac yna fe fuasai yn sefyll?

Ioan. Nid oedd hyn yn tarddu oddiar natur Duw, nac oddiar ei ewyllys, na'i ben-arglwyddiaeth, nac oddiar un gosodiad o eiddo Duw; ond yr oedd yn tarddu oddiar angenrheidrwydd hanfodol natur pethau. Ni allasai Duw greu creadur yn hunan-ymddibynol; canys y mae yr hyn sydd yn hunan-ymddibynol yn anfeidrol, yn ganlynol yn Dduw: yn ganlynol ni buasai lle i ddau Fod anfeidrol; fe fuasai un Bod anfeidrol yn rhwym i ddistrywio'r llall.

Iago. Onid Duw oedd awdwr y creadur ag oedd a diffygolrwydd ynddo?

Ioan. Ie, yn sicr; ond nid Duw oedd awdwr ei ddiffygolrwydd; ni allasai Duw ei wneud yn hunan-ymddibynol; pe buasai yn hunan-ymddibynol, ni buasai yn greadur; canys y mae pob creadur yn ymddibynu ar y Creawdwr: ond y penderfyniad yw, gan fod hanfodol ddiffygolrwydd yn perthyn i bob creadur, sef ei fod heb fod yn hunan-ddibynol arno ei hun, ond yn ymddibynol ar un arall; a chan i Dduw mewn ffordd uniawn a chyfiawn ei roi a'i adael i sefyll arno ei hun, a pheidio ymddwyn tuag ato mewn un ffordd ond yn llwybr uniondeb a chyfiawnder, a pheidio rhoi dim iddo ond yr hyn oedd yn ei haeddu, fe syrthiodd yn y fan; a phe na buasai yn syrthio, buasai yn ogyfuwch â Duw, yn hunan-ymddibynol -- yn medru cynal ei hun. Felly ni a welwn fod pechod wedi dyfod i mewn oddiar hanfodol ddiffygolrwydd natur greuedig, a Duw yn ymddwyn tuag ato yn llwybr cyfiawnder, ac heb ymrwymo i'w gynal yn llwybr gras penarglwyddiaethol. Yn wyneb hyn ni a welwn fod pob daioni o Dduw, a phob anmherffeithrwydd o'r creadur.

Iago. A allasai Duw ddim cadw y creadur rhag pechu?

Ioan. Gallasai, oddiar ei benarglwyddiaeth, yn llwybr gras, trwy roddi iddo fwy nag oedd yn ei haeddu: ond nid yn llwybr gras y gwelodd Duw fod yn dda i ymddwyn at ddyn mewn diniweidrwydd, ond yn llwybr cyfiawnder.

Iago. Oni safodd rhai o'r angylion heb syrthio?

Ioan. Do; ond Duw o'i ewyllys da penarglwyddiaethol a'u 'diogelodd.

Iago. Oni saif y saint byth mewn gogoniant?

Ioan. Gwnant yn sicr, trwy fod Duw yn ffordd ei ras penarglwyddiaethol wedi ymrwymo i'w diogelu: ond pe tynai Duw ei law gynaliol oddiwrth eu bod, hwy a syrthient i'w diddym-