Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dra cyntaf: pe tynai efe ei law yn ol oddiwrth eu cyneddfau moesol, hwy a syrthient i bechod yn y fan. Ond y mae'r saint wedi cael eu diogelu yn bresenol mewn cyfryngwr, am hyny ni syrthiant byth.

Iago. Pa le y mae mawr ddrwg pechod yn ymddangos?

Pedr. 1. Y mae yn ymddangos yn wrthwynebiad i'r daioni penaf: y mae yn groes i bob peth sydd yn y Jehofah. 2. Yn yr annhrefn y mae wedi ei wneud yn y greadigaeth: pechod yw yr achos o bob gofid a marwolaeth. 3. Yn y niwed ag y mae wedi ei wneud i enaid; sef ei yspeilio, ei halogi, ei gaethiwo, ei dwyllo, ei ddallu, ei glwyfo, ei starvo, ei feichio, ac hefyd y mae yn ei boeni. 4. Y mae yn ymddangos yn ddrwg mawr. wrth ei gymharu â phethau drwg ereill; y mae yn waeth na chystudd, gwaeth nag angeu, a gwaeth nag uffern. 5. Y mae mawr ddrwg pechod yn ymddangos yn nyoddefiadau y Machnïydd. 6. Yn nghosp y damnedigion.

—————————————


Cymerwn ein hạil ddifyniad o'r llyfr a elwir Rhosyn Saron. Arddangosir Shadrach yn hwn fel gwrthwynebydd y "system, newydd," fel y gelwid hi.—Cofied y darllenydd mai golygiadau Shadrach sydd ganddo, ac nid ein golygiadau ni.

"Ymadroddion anysgrythyrol yw dywedyd 'Fod Crist wedi, marw, fel y gallai Duw, yn unol â'i santeiddrwydd, a'i gyfiawnder, a'i gyfraith, i achub pawb, pe ewyllysiai.' Ond cymerwch y sylwadau canlynol o dan eich ystyriaethau:

"1. Os gall Duw, yn wyneb aberth Crist, yn unol â'i natur, i achub pawb, yna fe all, yn unol â'i natur, i beidio a damnio neb; ac yna y mae cosp y damniaid yn tarddu oddiar benarglwyddiaeth Duw, ac nid oddiar ei natur; ac y mae yn sicr mai dyna fel y mae yn bod, os darfu Crist ddiogelu anrhydedd llywodraeth foesol ar eu rhan, fel y gallasent, yn unol â gogoniant Duw, i gael eu hachub: ond yr ydwyf yn meddwl mai nid oddiar ei benarglwyddiaeth y mae Duw yn cospi y damnedigion: ond yr ydwyf yn meddwl fod cyfiawnder a santeiddrwydd Duw yn ei rwymo i'w cadw yn y carchar hyd nes talont y ffyrling eithaf. Mat. v. 26.

"2. Os gall Duw achub pawb yn bresenol yn unol â'i natur, yn wyneb aberth Crist, fe all, yn unol â'i natur, eu hachub eto o'r fflamiau yn mhen miliwn o flynyddau, pe ewyllysiai; oblegyd yr un fydd Duw, o ran ei natur, y pryd hwnw ag yn awr; a'r un fydd pechod o ran ei natur, a'r un fydd rhinwedd aberth