Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Crist. Nid hir ystod o bechod, na lliosogrwydd o bechodau, yn unig, sydd yn damnio; ond natur pechod ynddo ei hun. Diau: fod y plentyn pan yr anadlo gyntaf, yn ddamniol yn wyneb y gyfraith, yn gystal a'r pechadur can' mlwydd; oblegyd y mae y ddeddf yn gofyn natur berffaith yn gystal ac ymddygiad perffaith.

"3. Os gall Duw gospi rhai o'r bobl ag y darfu Crist roi iawn digonol drostynt, fel y gallasai Duw unwaith, yn unol â'i natur, eu cadw, yna fe all ddamnio'r etholedigion cyn iddynt gael eu sancteiddio, er i Grist roi iawn digonol drostynt; yna fe ymddengys nad yw iawn Crist o ddim gwerth y'ngolwg Duw; ac fe ymddengys y'ngoleu'r athrawiaeth newydd sydd am godi ei phen yn ein gwlad, mai ewyllys Duw a ffydd dyn sydd yn diogelu anrhydedd y llywodraeth foesol, ac nid iawn Crist; yn ganlynol, fe allai Duw i achub, pe ewyllysiai, heb iawn Crist. Mae yn sicr os gall Duw yn unol â'i natur, i ddamnio dynion wedi cael iawn digonol drostynt, y gall ef, yn unol â'i natur, i achub dynion heb gael un iawn drostynt; ni a welwn, yn ganlynol, mai tuedd yr athrawiaeth o fod Crist wedi marw dros bawb, yw gwadu'r angenrheidrwydd o iawn am bechod, a dal fod adferiad i'r damnedigion o boenau uffern; ac y mae yn sicr fod yr athrawiaeth gyfeiliornus ag sydd am ymddangos yn ein gwlad, mewn dillad newydd, yn llawn o wenwyn ofnadwy, ac yn sicr o derfynu mewn Sosiniaeth, ac yn sicr o feithrin ffurfioldeb, caledwch, ac annuwioldeb, yn ein hardaloedd; am hyny, y mae'n llawn bryd i ni ddeffro yn ei herbyn, a gwylio rhagddi.

*****

"5. Ni allasai Adda ddwyn marwolaeth i neb, ond i ddeiliaid y cyfammod, i'r hwn yr oedd efe yn ben iddo: Adda oedd pen y cyfammod o weithredoedd; ac yr oedd ei holl hâd naturiol yn cael eu golygu ynddo fel aelodau; a phan ddarfu ef syrthio, fe syrthiodd pawb ynddo: a "thrwy un dyn y daeth pechod i'r. byd, a marwolaeth trwy bechod; ac fe aeth marwolaeth ar bob dyn yn gymaint a phechu o bawb:' felly Crist yw pen y cyfammod gras, ac y mae'r holl etholedigion yn cael eu cyfrif ynddo fel ei hâd a'i aelodau; ac fe ddywedir eu bod yn cael eu croeshoelio gydag ef, yn marw gydag ef, ac yn adgyfodi gydag ef. Cyfryngwr i ddeiliaid y cyfammod hwn yw Crist; Meichiau i ddeiliaid dirgeledig y cyfammod hwn yw Crist; gwaed y cyfammod hwn yw gwaed Crist; ac fel meichiau yn y cyfammod hwn yn unig y bu Crist farw; am hyny ni roddodd Crist ddim iawn dros neb, ond dros y rhai a gafodd eu golygu gan Dduw, i y fod yn ddeiliaid o'r cyfammod hwn: yn ganlynol, ni all Duw yn unol â'i natur, i achub neb ond y rhai'n, oblegyd na chafodd