Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddiniwed iawn, ei fod "yn cael hyfrydwch mawr." Nid yw pob awydd i bregethu yn ddiau o Dduw, am y gall godi oddiar wreiddiau llygredig; ond, y mae yn anhawdd genym feddwl fod yr Arglwydd wedi bwriadu i neb ymaflyd yn y gwaith pwysig hwn, os nad yw yn meddu awydd neillduol ato. Y mae tuedd neu awydd at waith yn gymhwysder i'w gyflawni; ac nid ydym yn meddwl fod neb wedi ei fwriadu gan Dduw at waith penodol, os na bydd ynddo gymhwysder penodol ato. Gyrid Azariah gan yr awydd a deimlai i bregethu'r efengyl, yn gystal â chan yr hyfrydwch, debygem, a deimlai wrth ei phregethu i'r caeau a'r cloddiau, i fod yn ddyfal ddydd a nos i geisio ymgydnabyddu â'i Feibl Cymraeg; a dywed wrthym iddo, "drwy ymdrech a llafur, ddyfod i wybod ychydig am dano o ddechreu Genesis hyd ddiwedd y Dadguddiad." Gallem feddwl, hefyd, na adawodd ef ddim o'r llafur hwn a'r ymdrech o'r neilldu, drwy gydol ei fywyd; oblegid, fel y cawn achlysur i sylwi eto, daeth o ychydig i ychydig yn un o'r ysgrythyrwyr goreu yn ei ddydd. Ac yr oedd hi yn gryn bwnc i fod yn gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau y pryd hwnw ragor yn awr. Nid oedd ond ychydig o Feiblau yn y wlad; oblegid rhyw bymtheg neu, ragor o flynyddau wedi hyn y sefydlwyd y Feibl-Gymdeithas, yr hon sydd erbyn hyn, fel afon lifeiriol, wedi llenwi ein gwlad â Beiblau. Nid oedd Ysgolion Sabbothol ychwaith wedi eu sefydlu; ac, mewn canlyniad, nid yn unig yr oedd llai o fanteision, ac a ddysgu darllen yr Ysgrythyrau, ond hefyd, llai o gefnogaethau iddo i fyned yn mlaen ar ei ben ei hun. Fodd bynag, ymladdodd Azariah âg anhawsderau: ac yn hyn, dangosodd fod rhywbeth ynddo. Yn y cyffredin, y mae y rhai sydd i gyflawnu, gwaith mawr yn eglwys Dduw, yn cael eu caledu at hyny drwy anhawsderau yn eu dyddiau borëol: a diau fod dysgu ymladd âg anhawsderau a'u gorchfygu, yn un o'r cymhwysderau goreu i'r weinidogaeth. Yn ychwanegol at yr ymdrechion personol. hyn, cafodd, drwy garedigrwydd ei fodryb, ychydig yn rhagor o ysgol dan ofal un John Young, yr hwn oedd yn glochydd i'r offeiriad enwog hwnw, Mr. Griffiths, o Nyfern. Ac, mor bell ag yr ydym yn gweled, dyma i gyd o fanteison ysgoliol gafodd Azariah Shadrach. Ond os bydd rhywbeth mewn dyn, y mae yn dra sicr o ddyfod allan o hono ryw fodd neu gilydd.