Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daw allan hefyd mewn modd diymgais a diseremoni. Nid oes genym ond y ffydd leiaf yn y bobl hyny sydd o dan orfodaeth i ddweyd wrth ereill yn barhaus fod rhywbeth ynddynt: ond dyna'r bobl y meddyliwn yn uchel am danynt, y rhai heb fwriadu hyny, a ddangosant i ereill fod rhywbeth ynddynt drwy weithredoedd. Un o'r cyfryw oedd Azariah Shadrach. Yn lle meddwl yn awr fod holl gylch dysgeidiaeth wedi ei gwmpasu ganddo: neu, yn y gwrthwyneb, yn lle gwangaloni wrth feddwl pa mor lleied a ddysgodd, ac wrth feddwl hefyd am yr anhawsderau oeddynt ar ei ffordd i ddysgu rhagor, safodd Azariah am ychydig, i ofyn iddo ei hun, Beth a wnaf? Gofyn iddo ei hun, feddyliwn, ddarfod iddo wneud, ac nid i ereill; a chan nad pa mor dda yw "gair yn ei bryd" oddiwrth ereill, eto, y bobl hyny sydd.yn ymgynghori llawer â hwynthwy eu hunain, ryw fodd, sydd yn dyfod yn mlaen. Y mae y gofyniad, Beth a wnaf? yn foddion i ddysgu iddynt i gynllunio drostynt eu hunain, yr hyn sydd yn un o elfenau anhebgorol llwyddiant; ac y mae yn eu cadw hefyd i ymddibynu mwy arnynt eu hunain nag ar ereill, yr hyn sydd yn elfen anhebgorol arall. Wedi gofyn fel hyn iddo ei hun, daeth yn fuan, debygem, i allu dweyd, "Mi a wn beth a wnaf." Ymgynygodd cynllun i'w feddwl, a chymeradwyodd ef. Yn weinidog ar eglwysi Trefgarn, Rhodiad, a Rhosycaerau, yr oedd y Parch. John Richards; gwr y tybid gan Azariah ei fod yn "dduwiol iawn—yn bregethwr call-yn ysgolhaig mawr, ac yn dduwinydd rhagorol;" ac ymddengys fod ei farn am dano yn o gywir. Mae yr anerchiad barddonol Saesoneg a ddanfonwyd ato gan y clodfawr Evans, o'r Drewen, gŵr o farn ar bwnc fel hwn, er ceisio ei luddias i fyned i America, yn dangos ei fod yntau o'r un farn ag Azariah am dano. A dywed Azariah wrthym fod gan y gwr hwn "lyfrgell o'r llyfrau goreu oedd yn bod." Yn awr, yr oedd y gwr parchedig hwn yn byw ar fferm, o'r enw Trelewellyn; ac yr oedd gan Azariah ddwylaw a fedrent weithio ar fferm, a chalon a fedrai ufyddhau. Meddyliodd Azariah, gan hyny, y gallai y tri pheth yma gyda'u gilydd fferm y Parch. John Richards, llafur ei ddwylaw, ac ufydd-dod ei galon yntau-roddi iddo y compound a ddymunai: sef, cyfleusdra i gynyddu mewn gwybodaeth. Aeth i lawr i roi tro at y Parch. John Richards, a gwnaeth iddo gynyg, yr hwn a roddwn