Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ion Daniel Evans, gynt o'r Mynyddbach; John Phillips, gynt o Drewyddel; James Phillips, gynt o Bethlehem, ei fab; James Morris, gynt o'r Wyddgrug; Llewelyn Rees, diweddar o Drewyddel; Daniel Davies, Aberteifi; Llewelyn Samuel, diweddar o Bethesda; David James, Rhosymeirch; Benjamin Rees, Llanbadarn; William James, diweddar o Lanybri; ynghyd â'r Parch. John Gwyn Jones, Fenstanton; heblaw nifer o bregethwyr cynorthwyol, a rhai o honynt yn ddefnyddiol iawn, er na chawsant alwad i weinidogaethu mewn un eglwys neillduol. Ac er mai yn Rhosycaerau y dechreuodd Azariah Shadrach bregethu, eto y mae yn hawdd iawn genym gredu na ddechreuai ef ddim yno, oni bai fod y marworyn wedi cyffwrdd â'i wefusau yn ardal Trewyddel. Os felly, pa fodd y cododd cynifer o bregethwyr yn olynol yn yr eglwys hon? Yn ffodus i ni, y mae llythyr y Parch. Daniel Davies atom, yn rhoddi i ni atebiad," Yr oedd eglwys Trewyddel yr amser hwn, (ebe fe,) yn un liosog a gwresog iawn; a'r Parch. J. Phillips, y gweinidog, fel tad tirion, yn magu yr aelodau yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd; ac os gwelai aelod â rhyw argoelion ynddo y gallai fod yn ddefnyddiol fel genau cyhoeddus, gwnai ei anog at hyny gyda y tynerwch mwyaf, a chymhellai yr eglwy's i roddi pob cefnogaeth iddo o fewn ei gallu." Dyna, ynte, ddarllenydd, y conditions anghenrheidiol i godi pregethwyr.—Rhaid i'r eglwysi fod yn wresog, ac i'r gweinidog, yn ystyr helaethaf y gair, fod yn fugail.

Yr oedd Shadrach (ebe fe) yn perthyn yn agos i nifer nid anenwog o weinidogion. Bu pedwar o'i berthynasau yn gweinidogaethu yn olynol yn Brynberian, sef y Parchedigion Dafydd Lloyd, Thomas Lloyd, Stephen Lloyd, a Henry George; ac yr oedd y Parch. B. Evans, Trewen, yn dal cysylltiad ag ef, o leiaf, drwy gyfraith. Ond hynod yw, nad aeth Azariah ieuanc, mor bell ag y gwelwn, at neb o'i berthynasau i ymofyn cynorthwy; ond at un oedd, mor bell ag y deallwn, yn estron iddo, Mr. Richards. A ydyw hyn yn profi ei bod hi yn well ganddo gael yr hyn a ddymunai drwy lafur ei ddwylaw, na thryw garedigrwydd ei berthynasau? Mae rhai yn meddu ar deimlad fel hyn: Dr. Livingstone er enghraifft.

Yn awr, wele Azariah Shadrach yn bregethwr. A pheth o bwys, ddarllenydd, yw gwisgo unrhyw gymeriad newydd; yn