Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neillduol felly y cymeriad o bregethwr yr efengyl. Y mae hyn wedi bod yn ddinystr i lawer. Yr oedd rhyw lun arnynt o'r blaen; ond mor fuan ag y dechreuasant bregethu, nid oedd llun yn y byd arnynt—fel crefftwyr, fel aelodau eglwysig, nac fel PREGETHWYR ychwaith. Melldith i ambell un oedd iddo ddechreu pregethu erioed. Yr oedd yn gallu dal yn mysg y lluaws fel aelod cyffredin; ond pan y cyfodwyd ef i safle uwch, daeth i fod yn fwy darostyngedig i ystormydd profedigaethau a gwrthwynebiad; ac am nad oedd ei baladr yn gryf, na'i ddefnydd yn wydn, drylliwyd ef yn dost, a dweyd y lleiaf; ac os ail-impia eto, bydd ol y dryllio hyn arno byth. Daeth dyn ieuanc o grydd unwaith at y Parch. Lewis Rees, Llanbrynmair, i awgrymu fod arno chwant cynyg pregethu. Ond gan fod yr hen batriarch yn ofni na fyddai cael ei godi yn uwch yn un fantais iddo ef, nac i neb arall, dywedodd wrtho gyda phwyslais priodol, debygem, "Ni allaf ddywedyd ond ychydig, ond mi a wn un un peth, eich bod yn grydd da;" gan awgrymu, debygem, y byddai hi yn well iddo gadw ei gymeriad fel crydd da, na bod yn erthyl gyda phob peth. Ond daliodd Azariah ei godi, ac ymgododd hefyd wedi ei godi. Dychwelodd yn mhen blwyddyn oddiwrth y Parch. John Richards at ei fodryb i Drewyddel; ac ymddengys ei bod hi yn amser cynes iawn ar grefydd yno y pryd hwnw. Yr oedd yno. rai dynion ieuainc yn dechreu pregethu ar y pryd, ac yn eu plith yr oedd Daniel Evans, wedi hyny o'r Mynyddbach; ac ymddengys fod Azariah ac yntau yn gyfeillion neillduol. Yr oeddynt ill dau yn dygwydd bod yn Abergwaun pan diriodd y Ffrancod yno yn y flwyddyn 1797, a dywed Azariah wrthym fod ei ffydd ef yn wan iawn pan yn canfod byddin y gelynion yn dyfod i lawr i draeth Wdig, cyn iddynt daflu eu harfau i lawr.[1] Ac y mae yn hawdd iawn genym gredu ei bod; yr oedd hi yn amser tra difrifol yno. Nid peth dibwys oedd gweled nifer o ddynion arfog yn tirio i gymydogaeth ddiamddiffyn. Ond gan nad beth am Azariah a'i gyfaill, dangosodd preswylwyr y cymydogaethau cylchynol lawer o wroldeb ar y pryd. Yn lle ffoi o flaen eu gelynion fel creaduriaid gwylltion, darfu i luoedd ymgasglu

  1. Yr ydym erbyn hyn wedi clywed mai nid o ddygwyddiad, ond o fwriad, oedd Shadrach a'i gyfaill yn Abergwaun. Aethent yno, fel lluoedd ereill, geisio gwrthwynebu y Ffrancod.