Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynghyd o bell ac agos, gan gymeryd yn eu dwylaw unrhyw arf fyddai yn gymhwys, yn ol eu tyb hwy, i ddinystrio y gelynion. Clywsom yn ein dyddiau borëol fod nifer o gymydogaeth Trewen wedi ymfyddino yn erbyn y gelyn; ac o ddiffyg arfau gwell, yr oedd rhai o honynt wedi unioni hen grymanau, ac ereill wedi gosod pladuriau ar goesau pigffyrch, gan droi proffwydoliaeth Esaiah yn y gwrthwyneb yn lle troi y gwaewffyn yn bladuriau, troi y pladuriau yn waewffyn oedd yma. Wedi myned am ran o'r daith fel hyn, clywsant er eu cysur fod y gelyn wedi ymostwng; a phan yn dychwelyd, pwy a'u cyfarfyddodd ond eu parchus weinidog, Mr. Evans, yr hwn oedd wedi bod oddicartref. Yr oedd y llawenydd yn fawr o'r ddau du; ac anerchai Mr. Evans hwynt gan ddweyd, "Wel, fy mhobl anwyl i, yr ydych wedi bod yn erbyn y gelyn." "Ydym," meddent hwythau. "Wel, (ebe yntau,) pe bawn i gartref, daethwn gyda chwi droed y'mhwll." Gallem feddwl y byddai ffydd Mr. Evans yn Nuw, y pryd hwnw, yn gryfach nag eiddo Azariah ieuanc. Amser difrifol, ddarllenydd, welodd ein tadau.

Erbyn hyn, y mae Azariah genym yn ddyn ieuanc parod ac awyddus am waith; ond, atolwg, pa le mae y maes iddo weithio ynddo? Y mae o bwys i ddyn gael y gymydogaeth fyddo yn ei daro, ac o bwys i'r gymydogaeth i gael y dyn fyddo yn ei tharo hithau. Ond sut y mae cael y naill at y llall? Digon, yn awr, yw dweyd, mai yr hen ddull ydoedd i'r ymgeisydd am faes i lafurio ynddo, fyned am daith bregethwrol, gan obeithio y gwnai Rhagluniaeth drefnu iddo gael ymsefydlu mewn rhyw fan. A chan nad faint a ddywedwyd am y teithiau pregethwrol hyny, y dull mae yn ddiau genym fod llawer o ragoriaeth ynddynt ar y tra-arglwyddaidd hwnw o benodi dyn, a'i ddanfon i le penodol drwy rym cyfraith, heb ymholi fawr, yn fynych, pa un a fydd y lle a'r dyn yn taro eu gilydd ai peidio? Mewn cydsyniad â'r arferiad hon, darfu iddo ef a'i gyfaill, Daniel Evans, gymeryd taith i bregethu drwy ranau o siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, Morganwy, a Mynwy; a dywed wrthym, eu bod yn gorfod myned o Felincwrt, ger Castellnedd, drwy Ferthyr-Tydfil, Dowlais, a Rumni, hyd Ebenezer, Pontypool, heb un lle i bregethu ynddo. Gŵyr y darllenydd fod gwaith mawr wedi cael ei wneud yma er y dyddiau hyny. Erbyn heddyw, nid yw yn debyg y