Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

allan yn gyfaill caredig iddo, nid yn unig y pryd hwnw, ond hefyd dros ei oes. Aml y mae dyn yn cael ei siomi yr ochr oreu!

Ond i ddychwelyd, yr oedd yr eglwysi Annibynol yn y Gogledd y pryd hwnw yn wan ac anaml. Ar y daith hon, daeth Shadrach i gyffyrddiad â'r Dr. Lewis, o Lanuwchllyn, yr hwn a'i anogodd ef yn fawr i ddyfod i ymsefydlu yn y Gogledd, er cadw ysgol a phregethu'r efengyl, yr hyn a wnaeth yn nechreu y flwyddyn ganlynol. Ymsefydlodd gyntaf mewn lle o'r enw Hirnant, yn agos i Lanrhaiadr-Mochnant, lle yr oedd capel bychan, dan ofal y Parch Jenkin Lewis, Llanfyllin. Y mae cofion cynes gan yr hen bobl yn y gymydogaeth hono anı dano eto. Daeth amryw o blant ato i'r ysgol, ac yn ol ei dystiolaeth ei hun, "gwnaeth yntau ei oreu i'w dysgu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Pregethai lawer yn y cymydogaethau hyn: a dywed wrthym fod "llawer o'r trigolion yn dywyll iawn, ac yr oedd tuedd erlidigaethus mewn rhai o honynt, fel trigolion Llanfyllin." Fel trigolion Llanfyllin, ddarllenydd; gallem feddwl, yn ol ei farn ef, fod rhyw enwogrwydd erlidigaethol yn perthyn i'r rhai hyn; ac er dangos ysbryd erlidigaethus y trigolion cymydogaethol, digon ganddo oedd dweyd, eu bod "fel trigolion Llanfyllin." Nid ydym yn gwybod a oedd trigolion Llanfyllin yn waeth y pryd hwnw na thrigolion rhyw dref fechan arall gyffelyb iddi:—ond y mae trefydd bychain, yn gyffredin, yn rhai hawdd eu cyffroi; ac yr ydym yn meddwl fod efengylwyr Cymru wedi cael gwaeth triniaethau yn ei threfydd bychain, nag yn un lle arall. Saethwyd at Howell Harris pan yn pregethu yn Machynlleth; ac y mae y cyffredin yn gwybod am y driniaeth greulawn gafodd gan drigolion y Bala. Ac o'r braidd y meddyliwn fod nemawr i dref fechan yn Nghymru yn meddu ar gymeriad difrychau gyda golwg ar hyn. Y mae yr ymosodiad ffyrnig a wnaeth rhai o drigolion Llanfyllin ar y tŷ yn yr hwn yr oedd y Parch. Jenkin Lewis yn cadw cyfeillach, gyda'r bwriad i boenydio y cyfiawn hwnw, yn ysmotyn du ar eu cymeriad hyd heddyw. Ac fe allai fod y weithred hono mewn golwg gan Shadrach, pan yn gwneud trigolion Llanfyllin yn enghraifft o erlidwyr y cymydogaethau cylchynol. Paham ynte y mae trefydd bychain wedi bod yn fwy erlidgar na lleoedd ereill? Heb roddi rhesymau ereill yn awr, gosodwn hwn o flaen