Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y darllenydd fel y penaf:—Yr oedd y pryd hwnw, fel yn awr hefyd i raddau gormodol, lawer o ysgarthion cymdeithas, neu rabble, yn byw ynddynt; a chan fod ysweiniaid ac offeiriaid erlidgar yr oes yn meddu ar dipyn o ddylanwad lleol, yr oeddynt yn gallu eu defnyddio i gyrhaedd eu dybenion eu hunain. Ond er pob gwrthwynebiad, pregethai Shadrach yn mhell ac yn agos. Yn niwedd y flwyddyn, symudodd i gadw ysgol yn Mhenal, ger Machynlleth; a dywed wrthym fod ganddo oddeutu triugain o blant y gauaf hwnw: "a gwnaethun fy ngoreu (meddai) i'w dysgu a'u cynghori, a'u hegwyddori yn egwyddorion sylfaenol y Grefydd Gristionogol." Ac yr ydym yn hyn yn cael cyfleusdra i weled y dyn. Nid cadw ysgol er cael tamaid o fara a wnai; o leiaf, nid hyny yn unig, ond er cael cyfleusdra i ddysgu y rhai oeddynt dan ei ofal yn egwyddorion crefydd. Dyma ydoedd yr amcan blaenaf. Pregethai yn fynych yn Mhenal ac Aberhosan, ac ymddengys fod diwygiad "lled dda," ys dywed yntau, yn. Aberhosan ar y pryd. Gallem feddwl ei fod yntau yn pregethu yn dra effeithiol; oblegyd clywsom i un o'i wrandawyr, wrth ei weled yn ymdynu at y terfyn, waeddi allan, ryw dro, yn Aberhosan, am iddo, er mwyn y nefoedd, barhau dipyn yn hwy. Yr oedd Aberhosan y pryd hwnw yn gysylltiedig âg eglwys y Graig, Machylleth, yn yr hon yr oedd y dychweledigion yn cael eu derbyn yn aelodau. Y Parch Edward Francis oedd y gweinidog yno ar y pryd; a dywed Shadrach am dano, yr un peth ag a glywsom gan bob un arall a wyddai rywbeth yn ei gylch yn ei ddweyd, sef, "ei fod yn ddyn, call iawn;" ac ychwanegir ganddo, "mi a ddysgais lawer ganddo, ac fe fu ei gyfeillach o les mawr i mi yn fy ieuenctyd." Onid yw hyn yn profi, ddarllenydd, ei fod yntau yn parhau i fod yn awyddus am ddysgu. Yr oedd yn awr yn ddyn ieuanc pump-ar-ugain oed; ond nid oedd eto yn tybied ei fod wydi dysgu'r cwbl; na, cadwai ei feddwl yn agored i dderbyn addysg pa le bynag y gallai ei gael. Yn mhen ychydig, symudodd i'r Dderwenlas, yr hwn sydd bentref bychan am afon Dyfi a Phenal, a phregethai yma eto mewn ystordŷ helaeth, yr hwn a fenthycwyd iddo gan un Mr. Evans, o'r Glasgoed, i gadw ysgol ynddo. Pregethai hefyd yn y cymydogaethau cylchynol,—yn y Gareg, "ac mewn tŷ cyfagos," yn yr ardal lle mae capel Soar yn awr, ac mewn tŷ