Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

haner gael ei meddianu, torai allan ar bob llaw, a phregethai pa le bynag y cai dderbyniad. Am oddeutu pedair blynedd ar ddeg, bu yn llafurio yn galed, "mewn amser ac allan o amser," nid yn unig y dydd, ond hefyd y nos, i geisio gyru y gwaith yn y blaen. Pregethai pa le bynag y cai gyfleusdra; ac yr oedd yn ei gwneud yn fater cydwybod i wneud cyfleusdra iddo ei hun, drwy geisio ymddwyn yn y fath fodd ag a'i cymeradwyai i fynwesau trigolion yr ardaloedd, fel y gallai drwy hyny gael pregethu yn eu tai. Er enghraifft, yr oedd wedi gosod ei galon ar gael pregethu yn Nghoedgruffydd—ffermdy mawr yn ymyl y fan lle saif capel Salem yn bresenol—ond pa fodd yr oedd cael myned i mewn nis gwyddai, am fod perchenog y lle, sef yr un a breswyliai yno, yn glamp o Eglwyswr. Nid oedd dolen. gydiol rhyngddo â'r lle yn ymddangos yn un man. Yn ffodus, cafodd wyr i'r gŵr hwn ei eni yn Nhalybont, a Shadrach oedd y gŵr i'w fedyddio. Wrth reswm yr oedd y tadcu i fod yn bresenol yn y bedydd; a phan ddaeth y dydd oddiamgylch, fel hyny yr oedd hi Gwelodd Shadrach ei fantais yn union, a phenderfynodd anelu at galon y gŵr da; ond yr oedd gochelgarwch, a thipyn o ragfarn, fe allai, yn ei gadw draw. Yn ngwyneb pob anfantais, fodd bynag, darfu iddo, drwy gallineb ac unplygrwydd, wneuthur argraff go ddwfn ar ei galon; ac nid hir y bu y gŵr hwn heb ofyn i Shadrach pa bryd y deuai i bregethu i'w dŷ yntau. Fel yna, y clywsom ddarfod iddo gael derbyniad i Goedgruffydd; ac y mae yn debyg iawn fod cysylltiad agos rhwng hyn a bodolaeth yr eglwys yn Salem. Dengys hyn y pwys sydd o fod yn gall yn gystal ag yn selog. A phe byddai pob gweinidog yn ymdrechu cadw ei lygad yn ei ben, fel y dywedir, i ddal ar bob cyfleusdra roddo Rhagluniaeth o fewn ei gyrhaedd, a'i ddefnyddio, y mae yn ddiau y byddai achos crefydd yn llawer mwy blodeuog mewn llawer man nag yw heddyw. Heblaw Talybont a Llanbadarn, yr oedd Dyffryn Paith a Chlarach yn lleoedd sefydlog i ofalu am danynt; ac am yn agos i bedair blynedd ar ddeg, pregethai tua chwe' gwaith yr wythnos. Mae yn ddiau fod hyn yn gofyn llafur mawr. Ond nis gallai Shadrach fod yn ddedwydd heb lafur. Yr oedd ei gyfansoddiad a'i grefydd yn gwneud caledwaith yn elfen