Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anhebgorol yn ei gysur. Ac heblaw y llafur hwn, yr oedd, drwy fod yn llygadog ac effro, yn cael cyfleusdra i bregethu mewn llawer o leoedd ereill. Dywed wrthym iddo bregethu llawer yn y Foelgolomen, Nantyperfedd, Cwmsymlog, Lluest- newydd, Ty'nycoed, Coedgruffydd, Pentrebach, Penybont, Cwmygeulan, Penybanc, Bryngwyn-bach, Ceulan, Caregestynllath, a'r Cwmerebach; a bu rai troion yn pregethu yn, Nhre'rddol, y Borth, ac Aberdyfi.

Pan ymsefydlodd Shadrach yn Nhalybont gyntaf, er nad oedd y trigolion yn erlidgar, eto, fel y gwelsom eisoes ar ei dystiolaeth, ef ei hun, yr oeddynt yn dywyll iawn; ac, fel y cyfryw, yr oedd cryn dipyn o goelgrefydd yn perthyn iddynt. Os oedd rhai o honynt yn meddwl am grefydd o gwbl, ystyrient eu hunain yn Eglwyswyr. Fel y cyfryw, gosodent gadwedigaeth pob plentyn a fyddai farw yn ei fabandod i ymddibynu yn gwbl ar y ffaith a fuasai wedi cael ei fedyddio ai peidio. Gan nad faint o niwed ymarferol oedd yn y dyb yna, gwnaeth, Shadrach ddefnydd go dda o honi. Dan ei dylanwad yr oedd y bobl yn awyddus i gael bedydd ar eu plant, yn neillduol felly os buasai arwyddion na fyddai y plentyn byw yn hir. A chan nad oedd un gweinidog ond Shadrach o fewn milltiroedd i'r lle, yr oeddynt yn gyru ato o bob cyfeiriad, ac ar bob amser o'r nos fel y dydd. Pryd bynag y deuai yr alwad, yr oedd yntau yn barod i'w derbyn. Heb ddim ond ei lawffon yn unig, yn gwmni iddo, prysurai ar bob amser, ac ar bob tywydd, i'r man y gelwid ef iddo, am y tybiai fod yno gyfleusdra i wneud daioni. Heb yngan gair yn erbyn y dyb oedd yn achos i'r cyffro, gan y byddai hyny o bosibl yn eu rhagfarnu yn ei erbyn, gweinyddai yr ordinhad yn ei ddull effeithiol ei hun. Ond wedi gorphen a'r bedydd, cymerai ei hamdden a'i gyfleusdra ei hun i ddiwreiddio y dyb o'u meddyliau, ac i siarad â hwynt yn ddifrifol am fater eu heneidiau; ac mor sicr a'i fod wedi cael derbyniad i deulu ar amgylchiad o'r fath, byddai y tebygolrwydd yn fawr y deuai rhywun neu rywrai, yn dra buan, i ymofyn eu lle yn yr eglwys o'r teulu hwnw. Os cofiwn ei ddyfalwch, yn nghyd a'r ffaith ei fod wedi bedyddio dros chwe' chant o blant yn yr ardaloedd hyn, y mae yn ddiau ei fod wedi gwneud llawer o ddaioni yn y llwybr hwn. Try dyn