Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

call ac ymroddgar y pethau mwyaf annhebyg i fod yn ffafriol i'w amcanion ei hun. Yr un modd y gwnai gydag angladdau. Ai i godi y corff, fel y dywedir, i ba le bynag y cawsai gyfleusdra, a phregethai yn ddiffael ar yr amgylchiad. Trwy hyn cafodd gyfleusdra i gario yr efengyl i lawer o dai fuasent heb hyn yn gauedig yn ei erbyn. Ymgasglai tyrfaoedd lliosog yn nghyd ar yr amgylchiadau hyn, fel y mae yn arferol eto yn y Deheudir, ac yn sir Aberteifi yn enwedig; ond nid rhyw awydd mawr oedd ar lawer o honynt i gael clywed y bregeth. Ar y cyntaf, byddent yn wasgaredig yma ac acw, ar hyd y buarth a'r caeau cyfagos. Ond os na ddeuent hwy ato ef, gyrai Shadrach ei lais cyrhaeddgar atynt hwy. Yn fuan tynid eu sylw; cyffroid eu teimlad o ddyddordeb; ac o ychydig i ychydig byddai y gynulleidfa wasgaredig wedi ymwasgu yn gryno o'i ddeutu. Gan nad faint o ddaioni fyddai wedi wneud i ereill, yr oedd tebygolrwydd mawr ei fod wedi enill serchiadau y teulu a'r perthynasau agosaf; ac, yn gyffredin, gwelid hwynt yn fuan ar ol hyny yn cymeryd eu lle yn y capel fel gwrandawyr rheolaidd, o leiaf, os nad yn aelodau hefyd. Dydd Llun y Pasg, yr oedd wedi bod yn arferiad gan drigolion y cymydogaethau hyn i ymdyru yn lluoedd mawrion, o'r wlad a'r dref, i gadw Gwyl Mabsant, neu rywbeth tebyg; a mawr oedd y rhialtwch a'r llygredigaeth fyddai yno. Llanbadarn oedd y prif gyrchfan. Teimlodd Dr. Phillips, ac ereill, ar eu calonau i gynyg troi yr Wyl Fabsant i fod yn gyfarfod mawr, a llwyddasant yn eu hamcan. Tranoeth, yr oedd cyfarfod yn cael ei gynal yn Nhalybont, yn amser Shadrach, i holi ysgolion Sabbothol, a mawr y tyru fyddai yno. Ac y mae yn ddiau genym fod llawer o ddaioni yn cael ei wneud. Cynllun godidog oedd hwn; ac y mae yn bur ddrwg genym ei fod i raddau yn colli ei ffafr, yma ac acw, gyda'r oes hon. Mae yn bosibl fod rhyw gyfnewidiadau dibwys yn angenrheidiol er cyfaddasu y cynllun yn fwy at amgylchiadau y dyddiau presenol; ond ni ddylid er dim ei adael o'r neilldu, o leiaf hyd nes ceir ei berffeithiach. Mae holwyddori yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i addysgu; nid yn unig oblegyd yr adeiladaeth a geir ar y pryd, ond hefyd, oblegyd y llafur blaenorol i hyny. Drwy y llyfrau pynciau a'r holwyddori, yr oedd pobl yn dyfod