Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nos o'r addoliad. Mewn canlyniad i hyny aeth y capel cyntaf yn rhy fach, a bu raid ei helaethu drwy adeiladu darn mawr ato. Er cyfarfod â'r treuliau, bu raid i Shadrach fyned oddicartref i gasglu. Y mae genym ryw gymaint i'w ddweyd am dano yn y cymeriad o gasglwr; ond gan y cawn gyfleusdra. eto ni a ymataliwn yn awr.

Cyn ei symud o Dalybont, yr oedd gan Shadrach bedwar o blant; a chan fod ei dderbyniadau arianol mor lleied, buom yn rhyfeddu pa fodd yr oedd yn bosibl iddo gael cynaliaeth iddo ei hun a'i deulu. Dichon fod y darllenydd hefyd yn barod i ryfeddu at yr un peth. Er mai nid ar fara yn unig y bydd byw dyn, eto y mae yn rhaid cael bara; a daw pob penteulu i wybod yn brofiadol, yn dra duan, fod llawer o bethau heblaw bara yn angenrheidiol. Er cynal teulu nid â penadur ond ychydig o ffordd. Ond pa fodd yr oedd Shadrach yn gallu dyfod i ben â hi? Cymered y darllenydd y ffeithiau canlynol yn atebiad. Fel y gwelsom eisoes, yr oedd trigolion Talybont a Llanbadarn yn garedig a chymwynasgar iddo; a buont yn. neillduol felly pan fu farw ei wraig. A lle byddo gwir garedigrwydd a chymwynasgarwch yn y galon, gwelir llawer o gyfleusderau i roddi cynorthwy. Ac yn gyffredin y mae preswylwyr parthau amaethyddol, lle nad oes rhyw lawer o drafnidiaeth arian, ac yn neillduol felly preswylwyr rhai parthau o Geredigion, yn llawer mwy parod i roddi rhywbeth mewn eiddo nag mewn arian. Ac ar lawer amgylchiad y mae rhoddion mewn eiddo felly yn werthfawr iawn, nid yn unig i'r derbynydd, ond hefyd i'r rhoddydd o honynt. Dywed y Beibl wrthym mai "gwell yw rhoddi na derbyn;" a chan nad sut y bydd haelioni yn dylanwadu ar y derbynydd, dywedir yn bendant wrthym y bydd yr enaid hael yn cael ei frashau. Y mae cyfansoddiad y meddwl dynol yn gyfryw, fel y mae yr aelodau hyny sydd yn arfer y cymwynasgarwch y soniwn am dano, yn dyfod i feddwl yn uwch am eu gweinidogion, ac yn dyfod i deimlo yn gynhesach atynt, oblegyd y rhoddion fyddont hwy eu hunain yn eu dwyn. Ao y mae yn fantais i enaid aelod po gynhesaf y byddo ei deimladau at yr hwn fyddo yn gweini iddo mewn pethau ysbrydol, a pho uchelaf y byddo ei` farn am dano. Gan nad pa mor effeithiol y byddo gweinidog