Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr efengyl yn cyflawni ei swydd o dori bara y bywyd, y mae barn gul am dano, a theimladau oerion ato, yn ddigon i beri i'r eneidiau a'u coleddant newynu. Ond gan nad faint o frashad fyddo rhoddion fel hyn yn beri i enaid y rhoddydd o honynt, a chan nad pa mor dderbyniol bynag fyddont gan y gweinidog, iddo ef y mae yn ddiau y byddai eu cyfwerth mewn arian yn fwy defnyddiol. Rhaid i'r meistr tir gael ei ardreth ganddo, ac i'r siopwr, y dilledydd, a'r crydd gael yr hyn sydd ddyledus iddynt hwythau, mewn arian sychion, ac nid mewn blawd ceirch. Da genym feddwl fod eglwysi sir Aberteifi yn dechreu dyfod i deimlo hyn.—Ond wele ni wedi cael ein harwain, gan gysylltiad meddylddrychau, yn dra phell oddiwrth gynaliaeth Shadrach a'i deulu. Heblaw hyny, yr oedd Shadrach yn gwneud ambell i lyfr er ei werthu, fel y cawn siarad yn helaethach mewn pennod arall. Ac os na fyddai ei felin ei hun mewn cywair priodol i falu meddylddrychau er gwneud llyfrau o honynt, tröai ei law i rwymo cynyrchion pobl ereill. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd wedi cael un o'r gwragedd "rhinweddol" ddesgrifir mor odidog gan Solomon:—"Hi a geisiai wlan a llin, gweithiai â'i dwylaw yn ewyllysgar." Mewn geiriau ereill, gwniai ychydig mor bell ag y byddai helyntion teuluaidd yn caniatau; a pheth bynag fyddai yr elw, rhoddai ef yn ewyllysgar i gynal pregethiad yr efengyl yn mharthau Talybont. A chan nad beth fyddo barn pobl ereill am danom, yn ngwyneb ein bod yn disgyn i fanylion teuluaidd fel hyn, y mae yn dda iawn genym ni gael y cyfleusdra hwn i dalu parch cyhoeddus i enw Mrs. Shadrach, ac i drosglwyddo ei henw i'r dyfodol mewn cysylltiad â'r hwn a gynorthwywyd ganddi mor effeithiol mewn bywyd. Nid ydym yn gwybod am nemawr o ddosbarth sydd yn cael cymaint o anmharch, ac hyd yn nod o annghyfiawnder, â gwragedd teilwng gweinidogion. Mae llawer o lygaid arnynt mewn bywyd; a llawer iawn o feirniadu, ac fe allai o gondemnio, ar eu dull o wisgo ac o fyw; ac wrth reswm disgwylir iddynt ddyoddef y cyfan. Llawer o bryder ac o dristwch sydd yn chwerwi eu cwpaneidiau, oblegyd y cysylltiad agos a ddaliant â'r weinidogaeth; ac ar lawer amgylchiad, rhoddant lafur eu dwylaw, fel yn yr amgylchiad hwn, neu gynyrch eu cynysgaeth priodasol, ac o bosibl y ddau gyda'u gilydd, yn