Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

urddasol Gogerddan. Y mae agosrwydd a dylanwad y teulu hwn wedi bod yn wrth weithydd i ddylanwad torïaidd teuluoedd cymydogaethol ereill. Gallem ddisgwyl, gan hyny, y byddai egwyddorion rhyddfrydig Annibyniaeth yn bur dderbyniol yn y dref hon, ac y cawsai eglwys Annibynol ei sefydlu ynddi yn foreu. Ac er ys blynyddoedd yn ol, yn neillduol felly cyn i reilffordd yr Amwythig gael ei hagor, yr oedd Aberystwyth a Machynlleth fel dau borth rhwng y gogledd a'r deheudir; ac yr oedd pob gweinidog a phregethwr, wrth fyned i efengylu o'r naill ran o'r dywysogaeth i'r llall, yn bur debyg o basio drwy y ddwy dref fel eu gilydd; ac y mae hyn yn ychwanegu ein syndod fod y dref hon wedi cael ei hesgeuluso cyhyd. Ond beth dal siarad; er fod rhai o weinidogion yr Annibynwyr wedi bod yn pregethu yma yn achlysurol rai blynyddau cyn i'r achos gael ei sefydlu, weithiau yn nghapel y Bedyddwyr, brydiau ereill yn nghapel y Trefnyddion, ac yn awr ac eilwaith mewn tai anedd, eto ni wnaed un ymdrech effeithiol i gael meddiant parhaol o'r maes. Yn y cyfamser, achubodd enwadau eraill y cyfleusdra, yn neillduol felly y Methodistiaid Calfinaidd. Tra yr oedd yr enwad parchus hwn yn ei fabandod, yr oedd Aberystwyth yn un o'r lleoedd penodol hyny y byddai ei aelodau cyntaf yn ymdyru iddynt bob mis, er cael cyfleusdra i wrando un o'r gweinidogion offeiriadol, ac i dderbyn elfenau y cymundeb o'i law: oblegyd hyn cafodd y Methodistiaid afael ar y trigolion yn lled foreu. Ac oni bai mai tref yw Aberystwyth, nid ydym yn sicr y byddai doethineb na chrefydd, gan hyny, yn cyfiawnhau Shadrach yn ceisio rhoddi ei droed i lawr ynddi pan y gwnaeth. Yn ol ein barn ni, y mae yn fwy o bechod nag o grefydd i un enwad crefyddol geisio ymwthio i mewn i gymydogaeth gyfyng fyddo wedi cael ei meddianu bron yn hollol gan enwad uniongred arall o'r blaen. Ond ar lawer o olygiadau, dylid gwneud eithriad o drefydd: nid yn unig ar gyfrif eu poblogrwydd, ond hefyd ar gyfrif y ffaith fod llawer iawn o aelodau eglwysig y wlad yn dyfod i aros ynddynt; ac os na fydd lleoedd priodol i'w derbyn, ymunant efallai am eu hoes âg enwadau ereill, neu fel y mae yn digwydd yn fynych, gadawant eu crefydd yn hollol. Yr ydym, gan hyny, yn edrych ar ymgais Shadrach yn ceisio sefydlu eglwys Annibynol yn