Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aberystwyth fel peth angenrheidiol yn gystal a chyfreithlon. Wedi rhyddhau ein ffordd fel hyn, ni a geisiwn arwain y darllenydd i edrych arno yn dwyn amcan ei galon oddiamgylch. Ein cynllun presenol fel enwad, yn Llundain, a threfydd mawrion ereill, ydyw cael capel yn gyntaf, a theimlir yn dra hyderus y gellir casglu cynulleidfa; ond anaml y gwnai y cynllun hwn y tro yn Nghymru. Yn gyffredin, rhaid cael cnewullyn go dda o eglwys a chynulleidfa yma, cyn beiddio codi capel; a dyna ydoedd cynllun Shadrach. Bu ef ei hun ac Edward Mason, un o'i ddiaconiaid yn Llanbadarn, yn chwilio am dymhor yn aflwyddianus am dŷ i bregethu ynddo; ond yn ffodus, o'r diwedd, darfu i dorïaeth diblygu un David Jenkins fod o wasanaeth iddo. Yr oedd hwn wedi bod yn aelod gyda'r Methodistiaid, ac wedi cymeryd yn ei galon i ffraeo â hwynt, am iddynt ryfygu tybied y gallai neb ond offeiriad esgoburddedig wasanaethu ar y cymundeb. Gan nad faint fyddai eu duwioldeb, eu dysgeidiaeth, a'u medrusrwydd, ïe, a'u llwyddiant gweinidogaethol;—gan nad pa un a fyddent wedi cael eu heneinio gan yr Ysbryd Glân ai peidio,—nid oeddynt yn gymhwys, yn ol barn y gwr hwn, at y gorchwyl pwysig o dori bara, os na fyddent wedi eu cysegru at hynyma gan law esgob. Yn gwbl sicr ganddo fod aberthu o'i feddianau ar allor y dorïaeth hon yn wasanaeth i Dduw, darfu i'r gŵr hwn benderfynu adeiladu capel bychan ar ei draul ei hun, at wasanaeth y bobl hyny oeddynt am i bob peth fod fel yr oeddynt. Wedi adeiladu y capel, fodd bynag, gwelodd er ei siomedigaeth nad oedd pobl eraill ddim yn gosod cymaint o werth ar ei ymdrechion ag a wnai ef ei hun. Ni ddeuai neb o'r Methodistiaid i bregethu ynddo! Ah! yr oedd y llanw wedi ymgodi yn llawer uwch na'r hen wely offeiriadol, ac nid oedd y capel bychan hwn yn ddigon i'w atal. Yn ngwyneb hyn, rhoddodd Jenkins y gair allan y gwnai ei osod i'r Annibynwyr, ac felly y bu. Aeth Shadrach ato, a chymerodd ef ganddo am naw punt y flwyddyn—"Ac yr oeddwn i yn atebol am dalu yr ardreth am dano fy hun," meddai Shadrach, "yr hyn a'm gwasgodd yn fawr wrth geisio magu fy mhlant bychain yn y blynyddoedd celyd hyny." Yr hen was ffyddlon, y mae yn bur hawdd genym dy gredu! ac am y gallent ragweled y wasgfa hon, byddai