Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawer pe byddent yn dy le, yn "tosturio wrthynt eu hunain," fel na byddai hyn iddynt. Pregethodd yn y capel hwn gyntaf am ddau o'r gloch prydnawn Sabboth, Ionawr 21, 1816, oddiwrth Esaiah xxxiii. 20, "Gwel Sion, dinas ein cyfarfod," &c., ac ar ddiwedd y cyfarfod cymerodd gyfleusdra i alw y tŷ yn Gapel Sion, yr hyn yw enw addoldy yr Annibynwyr hyd heddyw. Fe allai mai buddiol fyddai nodi yma fod Mr. Morgan, Llanfyllin, yn dyweyd fod pregethu sefydlog wedi bod yn flaenorol i hyn am ryw dymhor, mewn rhyw hen ystordy perthynol i'r gwaith llongau, oeddid wedi gymeryd at y gorchwyl.

Rhwng y darllenydd a ninau, y mae lle cryf iawn i dybied mai nid crefydd i gyd oedd yn dylanwadu ar feddwl torïaidd hen frawd y capel. Wedi i Shadrach fod yn pregethu am ddwy flynedd yn ei gapel ardrethol ei hun, gorfu arno ymadael o hono, oblegyd fod ei adeiladydd yn gofyn gymaint ddwy waith o ardreth am dano; a chafodd y "Capel Sion" hwn ei droi gan ei berchenog i fod yn arsenal i gadw arfau milwyr y dref ynddo. Y fath ryfyg, onide, ddarllenydd! Ond, o ran hyny, onid oedd yr ardreth gymaint arall oddiwrth ganlynwyr Mars, duw rhyfel, ag oddiwrth ganlynwyr Tywysog Heddwch? Ac heblaw hyny, onid ysbryd rhyfelgar a'i dechreuodd? a pha beth allai fod yn fwy naturiol nag iddo gael ei droi at ddybenion rhyfelgar yn y diwedd? Mae yn bur debyg fod Shadrach mewn teimladau lled barod yn ngwyneb hyn i bregethu oddiar y geiriau "Gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch." Ond, er iddo gael ei siomi y mae yn ddiau, eto ni ddigalonwyd ef. Am chwe' phunt a chwe' swllt y flwyddyn o ardreth, cymerodd hen ysgubor helaeth yn Heol-y-Frenines, i bregethu ynddi; ac wrth reswm, efe ei hun oedd yn gyfrifol am bob gofynion am dani. Dywed wrthym fod cryn draul wedi myned arno i wella llawr y tŷ hwn, ac i roddi meinciau ac areithfa ynddo. Agorwyd y tỳ hwn i bregethu ynddo Ebrill 12fed, 1818, a thestyn ei bregeth gyntaf ynddo oedd 2 Cron. iii. 1-testyn priodol iawn, nid yn unig am fod yma gyfeiriad at lawr dyrnu Ornan, ond hefyd am fod yma gyfeiriad at adeiladu tŷ yr Arglwydd. Nid oedd ond ychydig o arwyddion llwyddiant ar ei lafur yn y dref, ac oblegyd hyny, darfu i hen gyfeillion Llanbadarn flino ar ben dwy flynedd i ddyfod yno ragor. Ond, chwareu teg iddynt hefyd,